Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 17 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC859-1225W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ardal y Dwyrain
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/01/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Gweinyddol Dietetig
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r gallu I siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dewch i ymuno â'n hadran fywiog a chynyddol yn Wrecsam a Sir y Fflint. Byddwch yn gweithio gyda thîm gweinyddol ar gyfer tîm o ddietegwyr, a chynorthwywyr dieteg. Mae'r adran ehangach yn cynnwys dros hanner cant o ddietegwyr a chynorthwywyr dieteg yn ogystal â'n tîm gweinyddol o bump. Mae perthynas waith dda rhwng ein timau a digonedd o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu eisiau gwybod mwy.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel rhan o dîm cyfeillgar eich rôl bydd eich rôl yn cynnwys mewnbynnu cyfeiriadau cleifion ar y system gweinyddu cleifion a chysylltu â chleifion drwy lythyr a ffôn i drefnu apwyntiadau.
Mae sgiliau TG rhagorol, yn ddelfrydol mewn defnyddio system gweinyddu ysbyty (neu tebyg) yn hanfodol a bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr ardderchog, doeth.
Rydym yn chwilio am unigolyn i fod yn rhan o'r tîm prysur, sy'n gweithio'n hyderus ac effeithiol, yn gynorthwyol, yn gwrtais, yn broffesiynol a sensitif pob amser.
Yn sgil natur y dyletswyddau, bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd a bydd disgwyl iddo/iddi ddelio â chleifion, gofalwyr, perthnasau, staff meddygol a defnyddwyr gwasanaeth eraill, dros y ffôn ac ar bapur, a hynny’n gwrtais a chan ddefnyddio doethineb bob amser.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a manyleb y person sydd ynghlwm i gael manylion llawn am fanylion llawn y swydd wag hon.
Manyleb y person
Addysg
Meini prawf hanfodol
- Addysg lefel sylfaenol dda
- Meistrolaeth dda ar y Gymraeg/Saesneg
- Sgiliau mathemateg sylfaenol
- NVQ Lefel II neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
- Cyrsiau ar gyfer gweithwyr cymorth/gofalwyr
- Cwrs(cyrsiau) (sylfaenol) ar fwyd a maeth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o fewn y lleoliad gofal
- Profiad o ddelio â phobl
- Profiad mewn gofal iechyd
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y GIG
- Profiad blaenorol fel o fewn y tîm therapïau (gweinyddol/cynorthwyydd) / HCSW
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kate Harrod-Wild
- Teitl y swydd
- Head of Dietetics - East
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 847268
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ar gyfer manylion pellach a gwybodaeth, cysylltwch â:
Andrea Basu
Arweinydd Gwasanaeth Dieteteg Iechyd Cyhoeddus
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







.png)
