Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Seicoleg Diabetes
Gradd
Gradd 8a
Contract
Cyfnod Penodol: 21 mis (Mae'r swydd hon yn Gyfnod Penodol/Secondiad am 21 mis tan 06/01/2027 cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
Oriau
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
  • Gweithio gartref neu o bell
22.5 awr yr wythnos (I'w drafod)
Cyfeirnod y swydd
050-PST043-0425-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Wrecsam Maelor
Tref
Wrecsam
Cyflog
£54,550 - £61,412 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Seicolegydd Clinigol/Ymarferydd mewn Diabetes

Gradd 8a

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon yn Gyfnod Penodol/Secondiad am 21 mis tan 06/01/2027 cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Mae cyfle cyffrous wedi codi am Seicolegydd Clinigol/Ymarferydd Seicoleg i ymuno â'r Gwasanaeth Seicoleg Diabetes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Dyma wasanaeth y'n cynnwys dri Seicolegydd llawn amser , a dyma’r tîm arbenigol seicoleg diabetes oedolion cyntaf yng Nghymru. Bydd y swyddi wedi'u lleoli yn Ysbyty Wrecsam Maelor, sydd o fewn pellter cymudo o Gaer, Lerpwl ac Amwythig.

Mae'r gwasanaeth yn weithredol o ran ymchwil, mae ganddo gysylltiadau cryf â rhwydweithiau Seicoleg Diabetes Cymru a'r DU, Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan a rhanddeiliaid y trydydd sector. Bydd deiliad y swydd hefyd yn aelod o Adran Seicoleg Glinigol Iechyd BIPBC, sy'n adran gefnogol, gyfeillgar ac adran sy’n tyfu o ran Seicolegwyr Clinigol a Seicotherapyddion sy'n gweithio mewn gwasanaethau iechyd corfforol ar draws BIPBC ac mae gan yr adran gysylltiadau cryf â Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru.

**Sylwch y bydd angen i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno ymgymryd â'r rôl fel secondiad gael caniatâd eu rheolwr llinell cyn gwneud cais.**

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd wneud gwaith clinigol yn Gwasanaeth Diabetes Oedolion Ddwyrain BIPBC, gan weithio'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gyda pobl sy’n buw gyda diabetes, teuluoedd ac aelodau staff. Bydd deiliad y swydd yn cael ei ymgorffori yn y tîm diabetes gofal eilaidd lleol, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â'r arweinydd gwasanaeth Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol. Bydd y Seicolegydd hefyd yn darparu hyfforddiant, goruchwyliaeth, ymgynghoriaeth a chyngor i gydweithwyr amlddisgyblaethol ar agweddau seicolegol ar reoli diabetes ac yn cyfrannu at werthuso a chynllunio gwasanaethau. Yn ogystal â gweithio ym maes gofal eilaidd, gall deiliad y swydd hefyd weithio mewn lleoliadau gofal cymunedol neu ofal cychwynnol. Bydd pob deiliad swydd yn cael hyfforddiant sy'n benodol i ddiabetes.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Hyfforddiant a Chymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Anrhydedd dda mewn Seicoleg. Yn gymwys i ennill statws siartredig gyda BPS.
  • Wedi cofrestru a HCPC fel Ymarferydd Seicoleg.
  • Doethuriaeth ol-raddedig mewn Seicoleg Glinigol (neu gymhwyster cyfatebol i'r rhai a gwblhaodd eu hyfforddiant cyn 1996) a achredir gan BPS gan gofrestru a HCPC ar ol cymhwyso. Neu gymhwyster cyfatebol sy'n rhoi Statws Ymarferydd Seicoleg gyda HCPC.
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant uwch ym maes dylunio ymchwil a methodoleg ymchwil.
  • Hyfforddiant/cymwysterau ym maes modelau therapiwtig penodol sy'n gymwys i Seicoleg Glinigol Iechyd (e.e. Meddwlgarwch, ACT).
  • Hyfforddiant goruchwylio clinigol ar gyfer Seicolegwyr Clinigol dan hyfforddiant Doethurol.

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth ar lefel ddoethurol am gynllunio ymchwil a methodoleg ymchwil, gan gynnwys dadansoddi data amlamryweb cymhleth, fel y'i harferir ym maes seicoleg glinigol.
  • Gwybodaeth ar lefel ddoethurol am theori ac ymarfer seicoleg glinigol, gan gynnwys asesu a dehongli niwroseicolegol a seicometrig, therapïau seicolegol a'r ffordd y cant eu defnyddio.
  • Parodrwydd i ddatblygu gwybodaeth am ddeddfwriaeth a'i goblygiadau o ran ymarfer clinigol a rheolaeth broffesiynol mewn perthynas a gwasanaethau diabetes.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau DPP fel yr argymhellir gan BPS a HCPC.
  • Wedi mynychu cwrs ol radd a addysgwyd, neu wedi gwneud astudiaeth hunangyfeiriol dan oruchwyliaeth ym maes neu feysydd arbenigol seicoleg glinigol. (8a yn unig)
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polisi Llywodraeth Cymru a chanllawiau NICE sy’n berthnasol i arfer proffesiynol mewn darpariaeth gwasanaethau diabetes yng Nghymru. (8a un unig)
Meini prawf dymunol
  • Cofnod o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion a/neu lyfrau academaidd neu broffesiynol neu a adolygir gan gyfoedion.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Parodrwydd i ddatblygu sgiliau arbenigol ychwanegol drwy hyfforddiant neu brofiad dan oruchwyliaeth ym maes Seicoleg Glinigol Diabetes gan gynnwys cyflwyniadau achos, goruchwyliaeth grwp a chyrsiau byr ar ol cymhwyso.
  • Profiad ychwanegol priodol fel Prif Seicolegydd Clinigol/Ymarferydd Seicolegcymwysedig, gan gynnwys rhywfaint o waith ol-gofrestru yn gweithio gyda phobl ag anawsterau iechyd corfforol a/neu boen cronig.
  • Profiad o weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth gydag addasiadau a/neu anawsterau iechyd meddwl ar draws bywyd oedolion a'u teuluoedd a gofalwyr.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth a phrofiad ym maes amrywiaeth o ddulliau therapiwtig perthnasol a ddefnyddir ar gyfer cyflyrau iechyd corfforol cronig.
  • Profiad o addysgu a chydweithio a grwpiau proffesiynol eraill.
  • Profiad ol-gymhwyso sylweddol ym maes Seicoleg Iechyd Clinigol (e.e. diabetes, rheoli poen, gofal canser/gofal lliniarol, meddygaeth arennol).
  • Profiad o addysgu, hyfforddi a/neu oruchwylio.

Sgiliau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i ddefnyddio'r lefel uchaf o sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, y gallu i drosglwyddo a derbyn gwybodaeth hynod gymhleth/sensitif yn effeithiol mewn amgylchedd emosiynol iawn, sy'n galw am ddangos empathi a rhoi sicrwydd.
  • Y gallu i oresgyn gwrthwynebiad seicolegol i wybodaeth a allai fod yn fygythiol, gan barhau i fod yn hynod o broffesiynol ar yr un pryd.
  • Y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol.
  • Y gallu i gydweithio mewn lleoliadau amlddisgyblaethol.
  • Arddangos safonau uchel wrth gyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Y gallu i wneud penderfyniadau clinigol a phenderfyniadau am wasanaethau sy'n cynnwys ffeithiau cymhleth lle mae angen dadansoddi, dehongli a chymharu sawl opsiwn.
  • Y gallu i werthuso tystiolaeth ymchwil sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd clinigol a datblygu gwasanaethau yn feirniadol.
  • Y gallu i gynllunio a threfnu amrywiaeth o raglenni a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth neu raglenni a gweithgareddau clinigol.
  • Y gallu i weithredu polisiau a datblygiadau gwasanaeth hirdymor strategol y cytunwyd arnynt o fewn y gwasanaeth.
  • Hyfforddiant ffurfiol ym maes technegau gwahanu.
  • Sgiliau cyfrifiadurol a'r gallu i ddefnyddio meddalwedd safonol ac arbenigol.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg.
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn ffordd amserol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rose Stewart
Teitl y swydd
Consultant Clinical Psychologist / Service Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 847292
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg