Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Dietetig
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos (0830 - 1630 (trafodadwy))
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC277-0726W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/07/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Gweinyddwr Dietegwyr
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n chwilio am swydd satsifying yn gweithio gyda thîm cyfeillgar o fewn gwasanaeth diddorol ac amrywiol? Rydym yn chwilio am weinyddwr i gefnogi gwaith ein Deietegwyr yng ngwasanaeth Deieteg Dwyrain.
Darparu gwasanaeth gweinyddol cywir a phrydlon i hwyluso darpariaeth gwasanaeth trefnu apwyntiadau effeithiol ac effeithlon. Darparu cefnogaeth derbynfa a neilltuo cynhwysfawr i'r Gwasanaethau Therapi, gan arddangos arddull gwrtais, broffesiynol a sensitif bob amser. Mae disgwyl i ddeilydd y swydd flaenoriaethu, rheoli ei amser a dangos llawer o hyblygrwydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd eich rôl yn cynnwys mewnbynnu cyfeiriadau cleifion ar y system gweinyddu cleifion a chysylltu â chleifion drwy lythyr, ebost a ffôn i drefnu apwyntiadau.
Mae sgiliau TG rhagorol, yn ddelfrydol mewn defnyddio system gweinyddu ysbyty (neu tebyg) yn hanfodol a bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr ardderchog, doeth.
Rydym yn chwilio am unigolyn i fod yn rhan o'r tîm, sy'n gweithio'n hyderus ac effeithiol, yn gynorthwyol, yn gwrtais, yn broffesiynol a sensitif pob amser.
Yn sgil natur y dyletswyddau, bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd a bydd disgwyl iddo/iddi ddelio â chleifion, gofalwyr, perthnasau, staff meddygol a defnyddwyr gwasanaeth eraill, dros y ffôn ac ar bapur, a hynny’n gwrtais a chan ddefnyddio doethineb bob amser.
Mae'r gallu siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon (Cymraeg lefel 4-5).
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol dda
- eipio OCR/RSA Cam II neu gymhwyster/profiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- ECDL
- NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu neu Wasanaethau Cwsmeriaid perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad gweinyddol mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio o fewn y GIG (amgylchedd ysbyty)
- Profiad o fewn amgylchedd swyddfa / gwasanaeth prysur
- Profiad o ddefnyddio system Rheolwr Therapi
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith / Sgiliau trefnu rhagorol / I weithredu'n effeithlon dan bwysau ac i gwrdd â therfynau amser
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- Sgiliau Iaith Gymraeg; lefel 4-5 (HANFODOL AR GYFER RHESTR FER)
- Gwybodaeth dda o gymwysiadau TG a Windows
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am system Gweinyddu Cleifion/ ORACLE
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Hygyrch a phroffesiynol wrth ddelio â phobl ac yn gallu delio â sefyllfaoedd anodd/emosiynol
- Agwedd hyblyg tuag at ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kate Harrod-Wild
- Teitl y swydd
- Head of Dietetics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 847268
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector







.png)
