Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deietegydd
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP150-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/07/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Dietegydd Arbenigol - Cymorth Rhagnodi
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Yn chwilio am her newydd? Ydych chi'n Ddeietegydd yn chwilio i ddatblygu eich sgiliau mewn rôl newydd cyffrous?
Mae'r swydd hon yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr dieteteg, rheoli meddyginiaethau a gofal sylfaenol i gefnogi datblygu, gweithredu a gwerthuso arfer gorau mewn perthynas ag atchwanegiadau maethol rhagnodedig ledled Wrecsam a Sir y Fflint. Mae'r swydd amrywiol hon yn cynnig cyfle i ddatblygu a ehangu sgiliau arweinyddiaeth a gweithio tîm, drwy arwain gwaith prosiect a hyfforddiant, wrth barhau i gadw cysylltiad uniongyrchol â chleifion. Mae mentrau gwella ansawdd yn cael eu croesawu yn y adran – ac mae'r adran cymunedol glinigol yn bwriadu dechrau prosiect mawr o wella gwasanaethau yn yr Hydref.
Bydd y ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o adran o dros 50 o Ddeietegwyr a Chymorth Deieteg, wedi'u cefnogi gan dîm gweinyddol. Mae yna Ddeietegwyr Cymorth Rhagnodi eraill o fewn y Bwrdd Iechyd ac mae cysylltiadau da rhwng y tri maes yn golygu eu bod yn gallu cydweithio ar fentrau ac ar ddatblygu arfer gorau. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth lawn yn cael eu darparu ar gyfer y rôl, ac mae'r gwasanaeth yn ymrwymedig i hyfforddiant a datblygiad pob aelod o'i staff. Mae gan y gwasanaeth yn Wrecsam a Sir y Fflint gysylltiadau agos â gwasanaeth iechyd y cyhoedd a dieteteg ehangach ar draws Gogledd Cymru.
Nodir ein bod yn hysbysebu swydd rhan amser arall os hoffech gael mwy o oriau
Prif ddyletswyddau'r swydd
I weithio fel rhan annatod o dîm dieteg cymunedol clinigol.
I fod yn gyswllt rhwng timau dieteg a rheoli meddyginiaethau i sicrhau bod pob claf sy'n derbyn atchwanegiadau maeth yn cael eu hadolygu gan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol, a bod y cynnyrch mwyaf cost- effeithiol a chlinigol briodol yn cael ei ragnodi.
Er y gellir cydnabod nad yw'r swydd rhan-amser hon yn gallu bod yn gyfrifol am weld pob aelod o'r grŵp claf, bydd y person yn y swydd yn bwynt cyswllt cychwynnol i staff rheoli meddyginiaethau.
I adolygu cleifion sydd wedi cael atchwanegiadau maeth geneuol wedi'u rhagnodi, ynghyd â chydweithwyr dietegol.
I weithiogyda chydweithwyr dietegol i gynllunio, trefnu ac hwyluso addysg a hyfforddiant priodol i staff rheoli meddyginiaethau, gweithwyr iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol, a staff cartrefi gofal ar sgrinio risg maethol, cyngor deietegol rheng gyntaf i hyrwyddo dull bwyd yn gyntaf' atgyfeirio am gymorth maeth arbenigol, asesu priodol o anghenion maethol, dewisiadau triniaeth a adolygiadau dilynol yn unol â chanllawiau NICE.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Sgiliau

Profiad

Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kate Harrod-Wild
- Teitl y swydd
- Head of Dietetics - East IHC
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector