Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Addysg
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR123-0225-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Wrecsam Maelor
Tref
Wrecsam
Cyflog
£46,840 - £53,602 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/06/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Swyddog Sgiliau Clinigol ac Efelychu / Adfywio

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r adran Addysg Feddygol sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Byddai’r ymgeisydd llwyddiannus y swydd yn aelod brwdfrydig o dîm sy'n ehangu gyda’r rol yn cwmpasu sgiliau clinigol a chyfarwyddo efelychu ar gyfer addysg feddygol israddedig ac ôl-raddedig.

Bydd disgwyl I’r ymgeisydd llwynddianus y swydd weithio'n agos gyda'n tiwtor efelychu a sgiliau clinigol presennol ac y thechnegydd sgiliau clinigol ac efelychu sydd newydd ei benodi. Bydd ganddynt y sgiliau a'r cymwysterau diweddaraf angenrheidiol i gyfarwyddo myfyrwyr ac ymgeiswyr mewn amrywiaeth o sesiynau addysgu seiliedig ar sgiliau ac efelychiad gan ddefnyddio manicinau isel ac uchel ac offer hyfforddi sgiliau clinigol.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus hefyd ymuno â thîm y Gwasanaethau Adfywiad a rhoi cyfarwyddiadau ar nifer o gyrsiau adfywio, lle mae’r ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y cymwysterau angenrheidiol. Bydd cynnal sgiliau clinigol yn cael ei gefnogi trwy amser clinigol wedi'i gynllunio yn ogystal â thrwy aelodaeth o'r tîm ymateb brys, mynychu ataliadau ar y galon, galwadau pediatrig brys ac oedolion ar safle'r Ysbyty. 

Bydd y rôl yn seiliedig ar 1/3 Swyddog Adfywio a 2/3 o amser yn y rôl fel tiwtor Sgiliau Clinigol ac Efelychu gan gynnig rôl eang ac amrywiol o fewn y sefydliad i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrifol am ddarparu, datblygu a goruchwylio sgiliau clinigol ac efelychu o fewn yr adran Addysg Feddygol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Hyrwyddo ymchwil a datblygiad mewn addysg sgiliau ac efelychu o fewn addysg feddygol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

I gymryd rhan flaenllaw a gweithio fel tiwtor sgiliau clinigol / efelychu er mwyn gwella a hybu cymhwysedd clinigol staff amlddisgyblaethol, gan sicrhau bod safon uchel o ofal clinigol yn cael ei chynnal.

I lunio, darparu ac asesu rhaglenni hyfforddi ac addysg i gefnogi datblygiad sgiliau, gwybodaeth ac agwedd sydd eu hangen ar holl raddfeydd staff i sicrhau darpariaeth ofal cleifion cymwys ac o safon uchel.

I gynllunio, hwyluso a darparu ystod o sesiynau hyfforddi sgiliau clinigol / efelychu ar gyfer staff israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i e.e. staff eraill y Bwrdd Iechyd a chyrff allanol.

I gefnogi'r tiwtoriaid addysgol yn y gwaith o ddarparu hyfforddiant sgiliau clinigol / efelychu a'r prosesau asesu cysylltiedig.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Cyfrifol am ddarparu, datblygu a goruchwylio sgiliau clinigol ac efelychu o fewn yr adran Addysg Feddygol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Hyrwyddo ymchwil a datblygiad mewn addysg sgiliau ac efelychu o fewn addysg feddygol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

I gymryd rhan flaenllaw a gweithio fel tiwtor efelychu / sgiliau clinigol er mwyn gwella a hybu cymhwysedd clinigol staff amlddisgyblaethol, gan sicrhau bod safon uchel o ofal clinigol yn cael ei chynnal.

I lunio, darparu ac asesu rhaglenni hyfforddi ac addysg i gefnogi datblygiad sgiliau, gwybodaeth ac agwedd sydd eu hangen ar holl raddfeydd staff i sicrhau darpariaeth gofal cleifion cymwys ac o safon uchel.

I gynllunio, hwyluso a darparu ystod o sesiynau hyfforddi sgiliau clinigol / efelychu ar gyfer staff israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i e.e. staff eraill y Bwrdd Iechyd a chyrff allanol.

I gefnogi'r tiwtoriaid addysgol yn y gwaith o ddarparu hyfforddiant sgiliau clinigol / efelychu a'r prosesau asesu cysylltiedig.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • N.M.C. / H.P.C. Ymarferydd cofrestredig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol
Meini prawf dymunol
  • Profiad fel Swyddog Adfywio

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad a gwybodaeth ymarferol o Ddiogelu

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Andrea Taylor-clutton
Teitl y swydd
Medical and Dental Education Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000847062
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch ag Andrea Taylor-Clutton (Rheolwraig Addysg Feddygol a Deintyddol) , Trevor Haugton (Rheolwr Adfywio ),  Amanda Dawson (Swyddog Adfywio/Tiwtor Sgiliau Clinigol) a fyddai’n fwy na hapus i drafod y rôl ymhellach a dangos y canolfannau hyfforddi i unrhyw ymgeiswyr sydd â diddorde

 Andrea Taylor-Clutton - [email protected]

Trevor Haughton – Trevor. [email protected]

Amanda Dawson- [email protected] 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg