Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ymarfer Cyffredinol
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos (rhwng dydd Llun a dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR612-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Feddygol Beechley
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £48,527 - £55,532 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 29/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Nyrs Ymarferydd
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru yn sefydliad deinamig sy'n canolbwyntio ar gleifion. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am reoli nifer o bractisau meddygon teulu yn uniongyrchol ac mae’n datblygu’r practisau hyn i fod yn esiamplau o safon aur, gan greu gwasanaethau sy’n gallu diwallu anghenion y boblogaeth leol yn well, yn haws eu cyrchu a’u llywio, ac sy’n lle gwerth chweil a boddhaol i weithio.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn chwilio am Ymarferydd Nyrsio sy’n credu mewn gweledigaeth ar gyfer gofal clinigol o ansawdd uchel a thosturi o fewn Gofal Cychwynnol, ac sydd am gymryd rhan mewn Canolfan Feddygol Beechley, Wrecsam.
Rydym yn chwilio am Ymarferydd Nyrsio gyda phrofiad mewn Gofal Cychwynnol ac yn delio â Rheoli Clefydau Cronig. Bydd ymgeiswyr yn Nyrs lefel gyntaf gofrestredig gyda thystiolaeth o astudio ar lefel MSc.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflawni’r holl ddyletswyddau a chyfrifoldebau arferol sy’n gysylltiedig ag Ymarferydd Nyrsio sy’n gweithio o fewn Gofal Cychwynnol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Datblygu a darparu gofal cleifion o safon uchel mewn meddygfeydd gofal cychwynnol.
- Datblygu cyfleoedd ar gyfer ymarfer sy'n ehangu sgôp nyrsio traddodiadol.
- Hyfforddi a chefnogi nyrsys, cleifion a thîm amlddisgyblaethol y practis i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Asesu, gwneud diagnosis, cynllunio, gweithredu a gwerthuso triniaeth/ ymyriadau a gofal i gleifion sydd â diagnosis heb wahaniaeth.
- Asesu ac archwilio anghenion cleifion yn glinigol o safbwynt ffisiolegol a seicolegol a chynllunio gofal clinigol yn unol â hynny.
- Asesu, gwneud diagnosis, cynllunio, gweithredu a gwerthuso triniaeth/ ymyriadau a gofal i gleifion ag anghenion cymhleth.
- Dynodi, gwneud diagnosis a rheoli cynlluniau triniaeth yn rhagweithiol i gleifion sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr hir dymor (fel bo'n briodol).
- Dangos trwy weithredu o ddydd i ddydd agwedd gyfoes tuag at Ofal Cychwynnol sy'n canolbwyntio ar y claf, yn ddarbodus ac yn galluogi tîm.
Bydd y rôl hon yn gofyn am hyblygrwydd i fodloni gofynion y practis a bydd cynllun gwaith unigol yn cael ei gytuno ymlaen llaw gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Sicrhewch fod gennych y cymwysterau gofynnol ar gyfer y rôl.
Manyleb y person
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Knowledge of public health issues
- Able to identify determinants on health in the area
- Knowledge of public health issues in the area
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd hunangyfeiriol
- Hynod frwdfrydig
- Cyfrannu mewn tîm
- Gallu gweithio ar draws ffiniau
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs lefel gyntaf NMC gofrestredig
- Tystiolaeth o astudio at MSc
- Gradd nyrsio/iechyd perthnasol
- Nyrs ragnodydd estynedig/annibynnol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster arbenigydd nyrsio arbenigol neu gyfatebol
- Cymhwyster mentor/addysgu
- Hyfforddiant a phrofiad goruchwyliaeth glinigol
- Gallu siarad Cymraeg
Sgiliau & Profiad
Meini prawf hanfodol
- Arfer Clinigol Uwch
- Rheoli cleifion â chyflyrau Tymor Hir
- Rheoli Cleifion ag Anghenion Cymhleth
- Cwrs Archwiliad Clinigol
- Atebolrwydd am eich rôl ei hun a rolau eraill o fewn gwasanaeth o dan arweiniad nyrsys
- Gwybodaeth am faterion rheolaeth glinigol o fewn gofal cychwynnol
- Gwybodaeth am gyfarwyddiadau grŵp cleifion a pholisi cysylltiol
Meini prawf dymunol
- Rheoli prosiect
- Gweithio â mentrau datblygu cymuned
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Stacey Jones
- Teitl y swydd
- Primary Care Matron (East)
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07825 530212
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Paula Smith
Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Meddygfeydd a Reolir
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector