Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Orthoptig
- Gradd
- NHS AfC: Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP026-0226
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Wrecsam Mealor
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/02/2026 23:59
Teitl cyflogwr
ORTHOPTYDD ARBENIGOL
NHS AfC: Band 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r Adran Orthoptig yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn darparu gwasanaethau ar draws Dwyrain y Bwrdd Iechyd, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf i boblogaeth amrywiol. Mae'r adran yn cynnig ystod eang o glinigau arbenigol, gan gynnwys Strôc, Cyflyrau Niwrolegol ac Anhwylderau Prosesu Gweledol, gan weithio'n agos o fewn timau amlddisgyblaethol i gefnogi cleifion ag anghenion cymhleth. Rydym yn dîm bach, cyfeillgar a blaengar o Orthoptyddion ymroddedig, sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth glinigol, datblygu gwasanaethau a dysgu parhaus. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno ag adran gefnogol lle bydd eich sgiliau a'ch syniadau'n cael eu gwerthfawrogi a lle gallwch ddatblygu eich gyrfa mewn rôl amrywiol a gwerth chweil.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Darparu gwasanaethau Orthoptig fel ymarferydd annibynnol, ataliol a gwella, yn unol â safonau'r Gymdeithas Orthoptig Brydeinig a Gwyddelig (BIOS). Asesu, trin a rheoli cleifion sy’n cael eu cyfeirio i’r Gwasanaeth Orthoptig yn y brif ganolfan a chlinigau cymunedol.
- Asesu cleifion sy'n cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Orthoptig yn y prif leoliad, eu trin a’u rheoli a rheoli eich baich achos cymhleth eich hunain, a bod yn gyfrifol am arferion unigol yn y clinigau cymuned yn unol â chyfarwyddyd y Prif Orthoptydd.
- Penderfynu ar ddiagnosis clinigol a datblygu cynlluniau triniaeth effeithiol a chyfeirio at yr Offthalmolegydd pan fo angen.
- Cymryd rhan mewn clinigau arbenigol, gan gynnwys gwasanaeth profion golwg plant, strôc, clinigau prosesu gweledol ac asesiadau a rheoli arbenigol mewn ysgolion/unedau arbenigol.
- Cynorthwyo wrth addysgu Orthopteg ar lefel glinigol i israddedigion Orthopteg ar leoliad a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill, gan gynnwys Optometryddion cyn cofrestru, Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Ysgol, Meddygon Teulu, meddygon iau a myfyrwyr meddygol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Os yw'r rôl hon wedi denu eich sylw, gallwch ddod o hyd i fanylion pellach yn y disgrifiad swydd a manyleb y person sydd ynghlwm.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd yn y DU mewn Orthopteg neu Ddiploma'r Cyngor Orthoptig Prydeinig
- Meddu ar Gofrestriad ag HCPC.
- Tystiolaeth o brofiad clinigol ôl-raddedig a dilyn cyrsiau perthnasol
- Tystiolaeth a ddogfennwyd o CPD
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn dysgu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ac israddedigion Orthoptig.
- Parodrwydd i ymgymryd â chwrs dysgu perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o allu mewn sgiliau clinigol orthoptig gyda thystiolaeth o allu wrth weithio gyda baich achos amrywiol
- Tystiolaeth o wybodaeth fanwl o greu cynlluniau triniaeth sy'n cynnwys gwybodaeth gymhleth.
- Tystiolaeth o weithio'n unigol mewn sefyllfaoedd clinigol.
- Tystiolaeth o wybodaeth / technegau Orthoptig cyfredol drwy ddilyn cyrsiau hyfforddiant.
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da gyda phob grŵp oed
- Sgiliau da o ran rheoli a threfnu amser
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr
- Tystiolaeth o gefnogi eraill mewn amgylchedd clinigol
- Gallu dangos ymroddiad i ofal cleifion o ansawdd uchel.
- Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Tystiolaeth o weithredu arferion yn seiliedig ar ymchwil
- Profiad a/neu'r gallu iddefnyddio cyfrifiaduron
- Sgiliau cyflwyno effeithiol
- Ymagwedd broffesiynol ac ysgogol
- Cyfathrebu'n dda â chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
- Ymagwedd hyblyg a dibynadwy at batrymau gwaith
- Agwedd ofalus ac ystyriol
- Trwsiadus, prydlondeb, trefnus a dibynadwy
- Yn barod i weithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam a'i glinigau allgymorth
- Brwdfrydig
- Yn hyfedr o ran ysgrifennu a siarad Saesneg
- Yn gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg (unrhyw lefel)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alex Green
- Teitl y swydd
- Head Orthoptist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







.png)
