Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau fferyllfa cyffredinol dros wyliau cyhoeddus a'r penwythnos, yn ôl yr angen)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS796-1225
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Wrecsam Maelor
Tref
Wrecsam
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
30/12/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Fferyllfa Uwch - Dosbarthfa

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn chwilfrydig a brwdfrydig ymuno â'n tîm fferyllol yn Ysbyty Wrecsam Maelor.

Rydym yn chwilio am unigolyn cynhyrchiol a phroffesiynol gyda sgiliau arweinyddiaeth a datrys problemau cryf. Rhaid i'r ceisiwr fod yn hunan-gymhellol ac yn drefnus. Byddwch yn gallu gweithio'n effeithiol ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm ac yn cyfrannu at broses datblygu gwasanaeth ac arloesedd drwy eich mentergarwch a'ch frwdfrydedd eich hun.

Fel Uwch Gynorthwyydd Fferyllfa o fewn tîm Fferyllol, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu gwasanaeth fferyllol rhagorol, sy'n canolbwyntio ar ofynion yr unigolyn, yn Ysbyty Wrecsam Maelor. Rhan allweddol o'r rôl hon fydd yr ymgysylltu amlddisgyblaethol a chydlynu llif gwaith diogel ac effeithiol trwy'r fferyllfa ddosbarthu.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais fel ei gilydd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn gyfrifol am gydlynu llif diogel ac effeithiol y gwaith drwy’r fferyllfa, gan sicrhau bod yr holl bobl sy’n rhan o’r broses yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol i sicrhau bod anghenion cyflenwi meddyginiaeth y claf yn cael eu bodloni, dan gyfarwyddyd y Uwch Dechnegydd Fferylliaeth.

Rheoli, goruchwylio a chydlynu aelodau tîm fferyllol yn weithredol gan gynnwys asesiad staff, dyrannu gwaith, rheoli salwch a gwyliau blynyddol.

Cynorthwyo gyda hyfforddiant staff fferylliaeth sy'n gweithio yn y fferyllfa ddosbarthu ac ardaloedd fferyllfa lloeren.

Gweithredu systemau fferylliaeth i gyflawni tasgau mewn modd cywir ac amserol, darparu cefnogaeth weinyddol a chlerigol ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â’r fferyllfa ddosbarthu. Gan gynnwys bod yn berson cyfrifol arweiniol i hwyluso defnyddio system olrhain y fferyllfa, gan sicrhau bod gwasanaeth fferyllfa diogel ac effeithlon yn cael ei ddarparu tra’n darparu gofal o’r ansawdd uchaf.

Cynorthwyo wrth recriwtio staff, cyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs), cynhyrchu rotaiau a chynhyrchu adroddiadau gan ddefnyddio system olrhain y fferyllfa a Gweithio o fewn Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs).

Cynorthwyo gyda rheoli a darparu rheoli meddyginiaethau ger y claf i glaf mewnol ar draws safleoedd BCUHB.

Fe roddir cyfleoedd i chi wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymhellach drwy ddatblygiad a gefnogir gan ein tîm cyfeillgar a phrofiadol.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • TGAU neu gymhwyster cyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch
  • NVQ lefel 2 mewn Gwasanaethau Fferyllol, neu barodrwydd i weithio tuag atyn
  • Cymhwyster Lefel 2 Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu gymhwyster cyfatebol neu barodrwydd i weithio tuag ato
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster gwirio cywirdeb staff cymorth, neu barodrwydd i weithio tuag ato

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Wedi gweithio mewn ardal ddosbarthu mewn adran fferyllol ysbyty
  • Profiad o arwain tîm, hyfforddi a mentora staff
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd tîm amlddisgyblaethol. Gwybodaeth am Ddangosyddion Perfformiad Allweddol
Meini prawf dymunol
  • Gallu y gellir ei ddangos i gwrdd â therfynau amser a gweithio i dargedau
  • Profiad o ddatrys anghydfod

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Chwaraewr Tîm
  • Gallu i drefnu rota a blaenoriaethu llwythi gwaith, rheoli eich amser/tasgau eich hun a rhai eraill
  • Gallu i ddatrys problemau cyffredin o ddydd i ddydd
  • Hyblyg ac yn gallu addasu i ofynion a sefyllfaoedd sy'n newid
  • Ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun
Meini prawf dymunol
  • Mae sgiliau’r Iaith Gymraeg o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn ddymunol, ar lefel 1 i 5

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sarah Aird
Teitl y swydd
Senior Pharmacy Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 857296
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Sarah Aird - Senior Pharmacy Technician

[email protected]

03000 857296

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg