Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Bydd y swydd hefyd yn cynnwys 1 penwythnos mewn 4 a rota Gwyliau banc)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS655-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Maelor Wrecsam
Tref
Wrecsam
Cyflog
£26,300 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Stôr-geidwad/Courier Fferyllfa

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Negesydd / Unigolyn Cadw Stoc Fferyllfa

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymgeiswyr addas ymuno â thîm y Fferyllfa yn y rolau o Negesydd / Unigolyn Cadw Stoc Fferyllfa.

Mae'r swydd hon yn cwmpasu 2 faes o ddyletswyddau cylchdro:

  • Mae rôl yr unigolyn cadw stoc hylifau o fewn storfa’r Fferyllfa gyda chyfrifoldeb am dderbyn nwyddau,  ychwanegu at hylifau a meddyginiaethau a'u dosbarthu i wardiau / adrannau a chynnal a chadw stoc.
  • Rôl y negesydd yw bod yn gyfrifol am sicrhau dosbarthu archebion a meddyginiaeth yn brydlon rhwng dosbarthfa'r Fferyllfa a'r wardiau / adrannau.

Oriau gwaith fydd:

  • Unigolyn cadw stoc - Dydd Llun i Ddydd Gwener 08.15-16.30
  • Negesydd - Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30 - 17.45

Bydd y swyddi yn cynnwys rota 1 penwythnos mewn 4 a rota gŵyl banc gan weithio dydd Sadwrn 08.30-13.30 a dydd Sul 08.30 - 13.30 gyda diwrnod i ffwrdd yr wythnos ganlynol. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r Cynorthwyydd Cefnogi Fferyllfa (Unigolyn Cadw Stoc / Negesydd) yn gwneud amrywiaeth o ddyletswyddau arferol o ran ychwanegu at nwyddau stoc fferyllfa a nwyddau nad sy'n stoc a chynnyrch cysylltiedig i bob wardiau ac adrannau yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Bydd deilydd y swydd yn cynhyrchu archebion hylifau IV a chynnyrch cysylltiedig ac yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol i sicrhau bod storfa hylifau'r fferyllfa'n rhedeg yn esmwyth. 

Mae'n sicrhau casgliad prydlon o archebion fferyllfa a dosbarthiad fferyllol i'r holl wardiau ac adrannau.

Mae deilydd y swydd yn ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol porthor i sicrhau bod y fferyllfa'n rhedeg yn esmwyth a symud cynnyrch ac offer swmpus fel bo angen. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w weld yn Trac. 

Manyleb y person

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysgwyd i lefel TGAU mewn Mathemateg a Saesneg
Meini prawf dymunol
  • TGAU yn C neu'n uwch mewn Mathemateg a Saesneg

Profiad

Meini prawf dymunol
  • Profiad a gwybodaeth am leoliad gofal iechyd

Skills

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu trefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith
  • Sgiliau cyfathrebu llafar da
  • Sgiliau cadw cofnodion ac ysgrifennu da
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sarah Aird
Teitl y swydd
Senior Pharmacy Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 857296
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Jill Roberts, Uwch Dechnegydd Fferylliaeth - Ffôn 03000 857619

[email protected] 

Helen Dalrymple, Prif Dechnegydd Fferylliaeth - Ffôn 03000 857299 [email protected] 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg