Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapydd
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP195-1026
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Adeilad y Goron Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £40,559 - £48,841 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 12/11/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ffiosiotherapydd Cleifion
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Ffisiotherapydd Uwch brwdfrydig i ymuno â’n Gwasanaethau Atal ac Ailalluogi Integredig o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol Wrecsam. Mae hon yn rôl werth chweil sy’n cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gefnogi pobl i aros yn annibynnol a byw’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau ysbyty i gefnogi rhyddhau cleifion yn ddiogel ac yn amserol, gan gydweithio hefyd â gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, aseswyr gofal cymdeithasol a gweithwyr iechyd a gofal eraill. Byddwch yn cynnal asesiadau ffisiotherapi yng nghartrefi pobl, gan ddefnyddio dull cyfannol i nodi’r cymorth mwyaf priodol. Gall hyn gynnwys cefnogi pobl yn dilyn arhosiad yn yr ysbyty, ymateb i gyfnodau o argyfwng neu ddarparu ymyriadau ailalluogi i helpu pobl i adennill eu hannibyniaeth.
Byddwch yn sicrhau bod pobl yn derbyn y cymorth cywir ar yr adeg gywir, gydag adolygiadau rheolaidd i ymateb i anghenion sy’n newid. Byddwch hefyd yn cefnogi ac yn goruchwylio staff ffisiotherapi iau, gan helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder.
Mae hwn yn gyfle ardderchog i ffisiotherapydd sy’n mwynhau gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol, sy’n gwerthfawrogi gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n angerddol am hybu annibyniaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r prif gyfrifoldebau'n cynnwys:
- Cynnal asesiadau ffisiotherapi cynhwysfawr a datblygu cynlluniau triniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Rheoli llwyth achosion cymunedol amrywiol, gan gynnwys cleifion ag anghenion corfforol ac adsefydlu cymhleth.
- Cefnogi ymdrechion i osgoi derbyniadau i'r ysbyty a hwyluso rhyddhau diogel ac amserol o wasanaethau ysbyty.
- Asesu symudedd, risg o gwympo a gallu gweithredol, gan ddarparu rhaglenni adsefydlu priodol ac argymhellion ynghylch offer.
- Gweithio fel ymarferydd ymreolaethol tra'n cyfrannu'n effeithiol fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol.
- Goruchwylio, cefnogi a datblygu staff, gweithwyr cymorth a myfyrwyr ffisiotherapi.
- Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau, archwilio, mentrau gwella ansawdd a gweithgareddau llywodraethu clinigol.
- Cynnal cofnodion clinigol cywir a sicrhau bod ymarfer yn unol â safonau proffesiynol a sefydliadol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Profiad

Sgiliau

Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Nodweddion Personol
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Philippa O'Brien
- Teitl y swydd
- Physiotherapy Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- Philippa.O'[email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector

.png)