Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Dialysis arennol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.)
- Oriau
- Rhan-amser - 33 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS752-0926
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Uned Arennau Wrecsam, Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch Weithiwr Cymorth Dialysis
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 12 mis i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
- Bydd deilydd y swydd yn cynorthwyo'r nyrsys/ ymarferwyr cofrestredig i ddarparu gofal dirprwyedig i gleifion arennol. Bydd deilydd y swydd yn ceisio bodloni anghenion holistaidd yr unigolyn ar y cyd â disgyblaethau eraill yn yr amgylchedd gofal iechyd.
- Bydd deilydd y swydd yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau, a bydd disgwyl iddo weithio'n annibynnol, ac fel rhan o dîm, gan oruchwylio cleifion, a'u cynorthwyo fel bo angen.
- Bydd gofyn i ddeilydd y swydd gynnig cymorth i gynefino gweithwyr cefnogi gofal iechyd arennol band 2.
- Bydd deilydd y swydd yn gallu cyflawni elfennau gofal arennol, a chymdeithasol drwy feddu ar wybodaeth a lefel o allu a aseswyd i ymgymryd swydd fel hon - aseswyd yn lleol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae dyletswyddau a chyfrifoldebau wedi cael eu dosbarthu fel a ganlyn:
- Gofal cleifion / clinigol
- Llywodraethu Clinigol
- Ymchwil, Hyfforddiant a Datblygiad
- Atebolrwydd Proffesiynol
Mae'r rhain wedi'u hysgrifennu'n fanwl o fewn y disgrifiad swydd atodedig.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU A/NEU WYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- QCF Lefel 3 neu gymhwyster / profiad cyfatebol.
- NVQ Lefel 3 mewn pynciau sy'n gysylltiedig ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gymhwyster / profiad cyfwerth.
- Gwybodaeth dda am anatomi a ffisioleg.
Meini prawf dymunol
- Fframwaith gynefino HCSW Cymru Gyfan
- Gwybodaeth am weithio mewn amgylchedd arennol.
RHINWEDDAU: PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio fel Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd dan oruchwyliaeth uniongyrchol yn y lleoliad arennol, a chael eich rheoli gan ymarferydd cymwysedig.
- Dealltwriaeth dda am asesu risg a rheoli.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Clare Adamson
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 847342
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector







.png)
