Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Goruchwyliwr
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 35 awr yr wythnos (Cymysgedd o 7yb tan 2:30yp a 12:30yp tan 8yh i gefnogi gofynion y gwasanaeth - gweithio 5 diwrnod yr wythnos ar rotas sy'n gallu gynnwys penwythnosau)
Cyfeirnod y swydd
050-EA192-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Maelor Wrecsam
Tref
Wrecsam
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/09/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Goruchwyliwr Domestig

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Goruchwylio’r Cynorthwywyr Domestig er mwyn cynnal y safonau angenrheidiol a osodwyd yn y manylion glanhau. Bydd safle deilydd y swydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ond efallai bydd gofyn goruchwylio staff y Gwasanaethau Domestig mewn clinigau, canolfannau iechyd, gorsafoedd ambiwlans ac ysbytai yn ardal ddwyreiniol y gwasanaeth cymuned, sy’n cynnwys, Sir y Fflint, Wrecsam, Y Waun a Llangollen.

Rydym yn cynnig contract cyflogaeth parhaol 

1 x Rhan amser (35 awr yr wythnos) – Bydd oriau gwaith yn gofyn am gymysgedd o 7am i 2:30pm ac 12:30pm i 8pm i gefnogi galw gwasanaeth - gan weithio 5 diwrnod yr wythnos ar Rota a all gynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc.

Mae cyfraddau cyflog yn dechrau ar £12.60 yr awr, gyda chyfraddau uwch ar gyfer gwaith a wneir ar ddydd Sadwrn a dydd Sul

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amodau gweithio ardderchog gan gynnwys lefel hael o wyliau am dâl, tâl uwch am waith penwythnos a chyfle i ymuno â’r Cynllun Pensiwn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae’r tîm Gwasanaethau Domestig yn gyfrifol am sicrhau y cynhelir safonau glendid amgylcheddol.

Rydym yn chwilio am Oruchwyliwr Domestig ychwanegol a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod safonau glanhau'n foddhaol  yn unol â'n protocolau gweithredol a'n hamserlenni glanhau penodol.

Mae gan y Goruchwylwyr Domestig rôl amrywiol ac mae hyn yn cynnwys dyrannu dyletswyddau i Gynorthwywyr Domestig ac archwilio safon eu gwaith. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys lefel o waith gweinyddol gan gynnwys cynnal cofnodion Gwyliau Blynyddol a chyflenwadau deunyddiau glanhau.

Mae hon yn rôl sy'n gofyn am gryn ymdrech gorfforol, mae angen i'r Goruchwylwyr Domestig allu dangos tasgau glanhau wrth hyfforddi Cynorthwywyr Domestig newydd ac ar brydiau, bydd gofyn iddynt ymgymryd â dyletswyddau glanhau. 

Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a bydd angen i'r Goruchwylwyr Domestig allu teithio i Ysbytai Cymunedol a Chlinigau. Bydd car cronfa a rennir ar gael at y diben hwn.

Bydd profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant glanhau neu fel goruchwyliwr o fantais. Bydd gwisg/dillad amddiffynnol hefyd yn cael eu darparu.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Lefel 2 neu brofiad cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad glanhau blaenorol mewn lleoliad Gofal Iechyd
  • Profiad Goruchwylio Blaenorol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sharon Valentine
Teitl y swydd
Hotel Services Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 847800
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg