Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Therapïau
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol: 37.5 Awr Yr Wythnos
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AHP180-0926
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
CEM Berwyn
Tref
Wrecsam
Cyflog
£50,129 - £57,365 Y Flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/10/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch Therapydd Galwedigaethol - CEM Berwyn

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Byddwch chi'n rhan o dîm gofal iechyd arloesol a blaengar, sydd wedi'i leoli yng Ngharchar y Berwyn. Mae’n dîm sy’n cynnwys meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol sy’n darparu triniaeth o ansawdd uchel ac arferion gorau. Mae’r gwaith yn cynnwys gwasanaeth allgymorth dan arweiniad therapi sy'n cynnig asesiadau, cyngor ac arweiniad.

Bydd ein Harweinydd Clinigol yn eich cefnogi a'ch mentora'n agos, a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol sy’n annog dysgu drwy ein system arfarnu ddatblygedig, hyfforddiant mewn swydd a chyllid ar gyfer cyrsiau clinigol allanol.

Nid yw gwaith Therapi Galwedigaethol byth yn ddiflas nac yn rhagweladwy mewn carchar. Ambell ddiwrnod, gall y sgiliau rydych chi'n eu defnyddio fod yn debyg i'r rhai sydd eu hangen arnoch chi i weithio yn , a bryd arall, efallai y byddwch chi'n cefnogi pobl â’u hiechyd meddwl neu â chamddefnyddio sylweddau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae gofynion y rôl hon yn cynnwys asesu, cynllunio a chyflwyno rhaglenni adsefydlu uwch ar gyfer cleifion o fewn lleoliad gofal iechyd troseddwyr a allai fod â chyflyrau cymhleth a/neu gronig. Byddwch yn gyfrifol am benderfynu ar y diagnosis clinigol a'r driniaeth glinigol, ac am gadw cofnodion cyfredol, fel ymarferydd ymreolaethol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol a bydd yn barod i ddysgu a datblygu.

Bydd gennych gymhwyster gradd BSc (Anrh) mewn Therapi Galwedigaethol (neu gyfwerth) gyda chofrestriad HCPC cyfredol. Yn ogystal â hyn, bydd gennych dystiolaeth o brofiad ôl-gofrestru o asesu a thrin cleifion mewnol sydd ag anghenion adsefydlu cyffredinol ynghyd â thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Sylwer bod unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar gael gwiriad DBS a chliriad charchar llwyddiannus. 

Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch  eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn Therapi Galwedigaethol neu gyfwerth
  • Cofrestriad HCPC
  • Wedi mynychu cyrsiau byr sy’n berthnasol i'ch maes arbenigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gefnogi lleoliadau myfyrwyr

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-radd sylweddol gyda phrofiad blaenorol mewn maes clinigol cysylltiedig sy’n gwneud daliwr y swydd yn gymwys i weithio gyda llwyth achosion arbenigol yn y maes arbenigol
  • Profiad o gyfrannu at ddatblygu gwasanaeth a gweithredu newidiadau i wasanaeth
  • Goruchwyliwr profiadol
Meini prawf dymunol
  • Profiad cylchdroi gwaith Band 5

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
David Spendiff
Teitl y swydd
Therapies Clinical Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01978 523040
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg