Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener, efallai y bydd gofyn mynychu cyfarfodydd gyda’r nos)
Cyfeirnod y swydd
050-PST102-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Sir Ddinbych/Conwy neu Wrecsam/Sir y Fflint yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth – i’w gytuno wrth benodi
Tref
Wrecsam / Abergele
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/08/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
19/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Technegydd Fferylliaeth Cyswllt â’r Fferylliaeth Gymunedol

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n rhagweithiol gyda sgiliau trefnu da?

Ydych chi'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd cyffrous sy'n parhau i ddatblygu?

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r Pennaeth Strategol ar gyfer Fferyllfeydd Cymunedol yn natblygiad a gweithrediad gwasanaeth fferyllol cymunedol newydd ar draws BIPBC.  Bydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Rheoli Meddyginiaethau a Fferyllfeydd a gyda Phenaethiaid Iechyd Cyhoeddus a Gofal Cychwynnol o fewn y Bwrdd Iechyd ac yn cefnogi gwerthusiad prosiectau peilot a'u cyflwyniad parhaus.  Bydd angen sgiliau arwain, adeiladu perthnasau, a gweithio ar y cyd ar draws gofal cychwynnol ac eilaidd.

Bydd y rôl yn cynnwys teithio o amgylch ardal y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys ymweliadau rheolaidd i fferyllfeydd cymunedol a darparwyr gofal iechyd cychwynnol, yn ogystal â chyfarfodydd amlddisgyblaethol a gweithgareddau desg yn cynhyrchu adroddiadau.  Gall yr ymgeisydd llwyddiannus drafod ble bydd wedi ei leoli, yn ddibynnol ar yr ardal y bydd yn ei gwasanaethu ac ystyrir rhannu swydd/rolau rhan amser hefyd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Mae un rôl amser llawn ar gael, yn cwmpasu Wrecsam a Sir y Fflint, neu Gonwy a Sir Ddinbych, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth ar adeg y penodiad.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Cefnogi Gwasanaethau Fferylliaeth Gymunedol: Hyrwyddo darparu gwasanaethau fferyllol diogel, o ansawdd uchel, ac effeithlon o ran cost mewn fferyllfeydd cymunedol.
  • Adeiladu Perthnasau: Datblygu perthnasau gwaith cryf gyda thimau fferylliaeth a gweithredu fel cyswllt cefnogol rhwng y fferyllfa gymunedol a’r bwrdd iechyd.
  • Archwilio a Monitro: Cynnal archwiliadau neu werthusiadau o wasanaethau fferylliaeth gymunedol ac adnabod meysydd i'w gwella, gan gefnogi’r broses o weithredu unrhyw new a gytunwyd.
  • Datblygu Gwasanaethau: Cynorthwyo gyda chyflwyno a gwella gwasanaethau fferylliaeth gymunedol.
  • Cyswllt Traws-Sector: Gweithio ar draws sectorau (ysbyty, gofal cymdeithasol, meddygfa) i ddatrys materion sy’n ymwneud â gwasanaethau fferylliaeth gymunedol.
  • Addysg a Hyfforddiant: Cefnogi timau fferylliaeth gymunedol i gael mynediad at addysg a hyfforddiant sy'n berthnasol i ddarparu gwasanaethau a gomisiynwyd gan y GIG.
  • Cyfathrebu: Lledaenu rhybuddion, adroddiadau, deunyddiau addysgol, a newidiadau i arferion i’r rhanddeiliaid perthnasol.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a / neu Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestru gyda’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
  • NVQ Lefel 3 mewn gwasanaethau fferyllol gyda Tystysgrif Genedlaethol Btec mewn Gwasanaethau Fferyllol neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Technegydd Fferylliaeth Rheoli Meddyginiaethau Achrededig neu sy’n barod I ymgymryd a’r cymhwyster hwn
  • European Computer Driving Licence (ECDL)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i weithio penwythnos a gwyliau cyhoeddus. Y gallu i weithio oriau hyblyg.
  • Y gallu i weithio oriau hyblyg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gweithio mewn tîm amlddisgyblaeth
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn tîm fferylliaeth gofal sylfaenol
  • Profiad rheoli meddyginiaethau blaenorol
  • Profiad archwilio

Addasrwydd a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Y gallu i gynnal cyfrinachedd
  • Y gallu i addasu i newid a gweithio ar eich pen
  • Y gallu i reoli'r baich gwaith eich hun
  • Y gallu i gymhwyso’r wybodaeth a gafwyd i’r gweithle
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
  • Ymrwymo i hunan-astudio a datblygu
  • Cymhelledig, dibynadwy, trefnus.
Meini prawf dymunol
  • Deall ac ymatebol i anghenion cleifion.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Adam Mackridge
Teitl y swydd
Strategic Lead for Community Pharmacy
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 854 951
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Ellen Lanham

Arweinydd Optimeiddio Meddyginiaethau ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol

[email protected]   

07769 934 852

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg