Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal a Gynlluniwyd
Gradd
Band 4
Contract
5 mis (Cyfnod Penodol/Secondiad oherwydd Cyllid tan 31/3/27)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC316-1126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/11/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gweinyddwr Olrhain a Dilysu Llwybr Claf

Band 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 5 MIS OHERWYDD 

CYLLIDO 

 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.  

 

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y  Dilysu Craidd ym maes Gofal wedi'i Gynllunio ar gyfer Gweithiwr Dilysu/Olrhain Cleifion; bydd y rôl hon yn cynnwys rhoi cymorth o ran dilysu llwybrau cleifion a phrosesau olrhain o ansawdd uchel ar draws y sefydliad. Bydd deilydd y swydd yn cyflawni rôl allweddol o ran sicrhau bod llwybrau RTT yn cael eu cofnodi'n fanwl-gywir, yn cael eu rheoli'n weithredol, a'u bod yn cydymffurfio â safonau ac arweiniad cenedlaethol y GIG.

Gan weithio'n agos gyda'r Rheolwr arbenigedd safle, bydd y Gweithiwr Olrhain Llwybrau yn arwain ar ddilysu data ynghylch llwybrau cleifion, gan sicrhau cywirdeb o ran dechrau a stopio'r cloc RTT a statws o ran llwybrau. Mae'n rôl hon yn rhan annatod o gynnal dulliau perfformiad dibynadwy, gan ategu darpariaeth gwasanaeth, a sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau.

Bydd ar ddeilydd y swydd angen sgiliau dadansoddi cryf, craffter, a'r gallu i gydweithio â thimau clinigol, gweinyddol a gwybodeg i ddatrys anghysondebau a gwella ansawdd data.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Ymgymryd â phrosesau dilysu llwybrau cleifion yn rheolaidd ac ar sail ad hoc, gan sicrhau bod y cloc RTT yn gywir, bod statws llwybrau'n gywir a bod data ar draws systemau'n gyflawn.

  • Olrhain a monitro llwybrau cleifion yn rhagweithiol, gan ganfod llwybrau lle bo oedi, bylchau o ran dilysu a risgiau o ran cydymffurfio â RTT.

  • Rhoi cymorth, arweiniad a goruchwyliaeth i Glercod Dilysu o ddydd i ddydd

  • Ymchwilio i anghysondebau o ran llwybrau, anomaleddau data a methiannau o ran dilysu, gan weithio gyda thimau clinigol a gweinyddol i bennu gwraidd achosion a rhoi camau unioni ar waith.

  • Sicrhau bod digwyddiadau RTT allweddol yn cael eu cofnodi a'u cynnal yn fanwl-gywir (e.e. dechrau, oedi, stopio'r cloc ac addasu llwybrau).

  • Cynnal trywyddion archwilio a dogfennaeth glir i ddangos tystiolaeth o weithgarwch dilysu a chydymffurfiaeth â rheolyddion mewnol a gofynion sicrwydd allanol.

  • Ymgysylltu â thimau clinigol, gweithredol, gwybodeg ac amserlennu i hybu dealltwriaeth gyson am reolau ynghylch llwybrau cleifion a safonau ansawdd data.

  • Rhoi cymorth o ran prosesau rheoli PTL, gan sicrhau bod llwybrau'n cael eu dilysu'n weithredol cyn adrodd a chynnal adolygiadau gweithredol.

  • Cyfrannu at lunio adroddiadau dilysu llwybrau, crynodebau o berfformiad ac adroddiadau am eithriadau ar gyfer uwch reolwyr.

  • Monitro cydymffurfiaeth â safonau RTT cenedlaethol, gan ganfod risgiau i berfformiad a chan uwchgyfeirio pryderon yn briodol.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg A/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster lefel Diploma mewn maes sy'n ymwneud â gweinyddu (neu lefel gywerth o brofiad)
  • Safon TGAU Saesneg/Cymraeg iaith a Mathemateg
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • Prosesu Geiriau a/neu deipio Cam 2

Rhinweddau Personol:

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm
  • Gallu rhyngweithio gyda staff ar bob lefel
  • Gweithio mewn ffordd hyblyg er mwyn bodloni anghenion y gwasanaeth
  • Hunangymhelliant
  • Yn gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth dda am dargedau Cyfeirio i Driniaeth/Targedau Canser cyfredol
  • Profiad blaenorol o’r GIG
  • Profiad o drin data gan gynnwys ffynonellu, casglu ac ymholi gwybodaeth
  • Profiad o ryngweithio gyda staff o bob lefel
Meini prawf dymunol
  • Uwch wybodaeth am Excel

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth weithio da o becynnau Microsoft, yn enwedig Excel
  • Gallu cynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith eich hunan a chyflawni cyfyngiadau amser
  • Gallu i sefydlu prosesau gwaith newydd
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am Reoli Rhestrau Aros a chanllawiau Cyfeirio i Driniaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Amanda Hamlyn
Teitl y swydd
Site Specialty Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 841815
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg