Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth a Chlerigol
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (dros 3 diwrnod)
Cyfeirnod y swydd
050-AC289-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
30/07/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cydlynydd Israddedig

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn rhan o’r adran ddynamig a blaengar hwn. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan unigolion egniol, allblyg a gweithgar sydd â diddordeb mewn darparu gwasanaeth ardderchog i fyfyrwyr meddygol.

Mae’r rôl allweddol hon yn gofyn am sgiliau cyfathrebu gwych, ynghyd â gwir awydd i helpu pobl i ddatblygu. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y Swyddog Cefnogi Israddedigion yn gyfrifol am gysylltu ag adrannau a sefydliadau gwahanol tu mewn i'r Bwrdd Iechyd a thu allan iddo,er mwyn sicrhau bod addysg meddygol o safon uchel yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr yn Ysbyty Glan Clwyd. 

Mae gofyn bod gan ddeilydd y swydd sgiliau cyfathrebu rhagorol gan y bydd angen i chi gynnal perthynas gwaith cryf gydag ystod eang o staff ysbyty a phrifysgol i drefnu/cynllunio amserlenni ynghyd â threfnu llety i fyfyrwyr, creu pecynnau croeso, trefnu ystafelloedd hyfforddiant a'u paratoi, cynorthwyo gyda chynefino myfyrwyr a chynnal cofnod o adborth gan fyfyrwyr. Byddwch yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr adran a bydd angen i chi reoli eich llwyth gwaith yn effeithiol ac yn hyderus gan ddefnyddio eich cymhelliant eich hun.

Bydd angen i ddeilydd y swydd gynorthwyo'r Rheolwr Israddedigion i ddarparu gofal bugeiliol i fyfyrwyr meddygol. 

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu cynllunio ei lwyth gwaith, ei flaenoriaethu a'i drefnu er mwyn bodloni nifer o amserlenni.

Am wybodaeth pellach, cynghorir ddarpar ymgeiswyr i gysylltu â Rheolwraig Israddedigion er mwyn trefnu cyfarfod anffuriol i drafod y swydd yn bellach.

Byddai gwybodaeth am addysg feddygol a strwythurau'r GIG o fudd ar gyfer y rôl hon ac mae hefyd angen sgiliau cyfrifiadur rhagorol.

Mae cyfle i rhannu swydd yn opsiwn.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
 
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
 
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
 
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Llenwi pob angen hanfodol
Meini prawf dymunol
  • Llenwi pob angen dymunol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Llenwi pob angen hanfodol
Meini prawf dymunol
  • Llenwi pob angen dymunol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Llenwi pob angen hanfodol
Meini prawf dymunol
  • Llenwi pob angen dymunol

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Llenwi pob angen hanfodol
Meini prawf dymunol
  • Llenwi pob angen dymunol

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Llenwi pob angen hanfodol
Meini prawf dymunol
  • Llenwi pob angen dymunol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jayne McCall
Teitl y swydd
Undergraduate Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01745448754
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg