Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Pediatreg
Gradd
Gradd 5
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (i cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Dyddiau'r wythnos, penwythnosau a nosweithiau)
Cyfeirnod y swydd
050-NMR683-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Plant Cofrestredig

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 12 mis i cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Mae cyfle wedi codi i Nyrsys Plant Cofrestredig Band 5 dros dro ymuno â'r tîm nyrsio ar yr Uned Plant am 12 mis i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.

Rydym yn chwilio am staff brwdfrydig ac ysgogol sydd ag angerdd i weithio â phlant a’u teuluoedd.

Mae gan yr Uned Plant 19 gwely i gleifion mewnol yn cynnwys 1 gwely Dibyniaeth Fawr, 3 gwely Gofal Uwch.

Mae gennym hefyd 6 gwely uned Asesu, 6 gwely achos dydd meddygol/llawfeddygol a 2 gwely Oncoleg.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio wedi'i seilio ar dystiolaeth, gan gydweithio ac yn cydweithredu ag eraill er mwyn bodloni anghenion cleifion â'u teuluoedd.

Cynorthwyo i reoli a threfnu eu lleoliad clinigol a chymryd rhan yn addysg, datblygiad a goruchwyliaeth aelodau eraill o staff.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol a’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Plant Gofrestredig
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o astudiaeth bellach

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad diweddar o nyrsio plant llym
  • Yn gallu gweithio yn effeithiol mewn tîm amlddisgyblaethol / gydag asiantaethau eraill

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu asesu anghenion y plentyn / cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal yn effeithlon ac effeithiol dan gyfarwyddyd y Nyrs mewn Gofal
  • Yn gallu cyfathrebu gwybodaeth i aelodau'r tîm / rhieni / perthnasau, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Parodrwydd i ddatblygu sgiliau clinigol
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau TG - Dealltwriaeth o Lywodraethu Clinigol
  • Gallu blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a gofyn am gymorth pan fo'n briodol
  • Siaradwr Cymraeg

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth sylfaenol am ofal nyrsio plant a phobl ifanc
  • Dealltwriaeth o bolisi a gweithdrefnau Diogelu
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o POVA a'r Ddeddf Gallu Meddyliol

Personol

Meini prawf hanfodol
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich addysg barhaus eich hun
  • Ymrwymiad i ddatblygu a gwella gofal i blant a'u teuluoedd
  • Yn gallu gweithio fel rhan o dîm
  • Yn hyblyg i weithio patrymau shifft

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Laura Spurgin
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844359
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Yvette Gibson

Ysgrifenyddes

03000 844359

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg