Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS463-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/09/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Uwch Gynorthwyydd Fferyllfa
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle cyffrous i Uwch Gynorthwyydd Fferyllfa band 4 brwdfrydig llawn cymhelliant ymuno â'n tîm fferyllol yn Ysbyty Glan Clwyd.
Rydym yn chwilio am Uwch Gynorthwyydd Fferyllfa blaengar a rhagweithiol sydd â sgiliau arwain a datrys problemau cryf. Rhaid i ymgeiswyr fod yn hunangymhellol ac yn drefnus. Byddwch yn gallu gweithio'n effeithiol ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm a chyfrannu at y broses o ddatblygu gwasanaeth ac arloesi trwy eich menter a'ch brwdfrydedd eich hun.
Fel Uwch Gynorthwyydd Fferyllfa o fewn tîm Fferyllol Ysbyty Glan Clwyd, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu gwasanaeth fferyllol rhagorol, sy'n canolbwyntio ar ofynion yr unigolyn, yn Ysbyty Glan Clwyd. Rhan allweddol o'r rôl hon fydd yr ymgysylltu amlddisgyblaethol a chydlynu llif gwaith diogel ac effeithiol trwy'r fferyllfa ddosbarthu.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais fel ei gilydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gyfrifol am gydlynu llif diogel ac effeithiol y gwaith drwy’r fferyllfa, gan sicrhau bod yr holl bobl sy’n rhan o’r broses yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol i sicrhau bod anghenion cyflenwi meddyginiaeth y claf yn cael eu bodloni, dan gyfarwyddyd y Uwch Dechnegydd Fferylliaeth – Gwasanaethau Cleifion.
Rheoli, goruchwylio a chydlynu cynorthwywyr fferylliaeth yn weithredol, gan gynnwys gwerthuso staff, dyrannu gwaith, a rheoli salwch a gwyliau blynyddol.
Cynorthwyo gyda hyfforddiant staff fferylliaeth sy'n gweithio yn y fferyllfa ddosbarthu ac ardaloedd fferyllfa lloeren.
Gweithredu systemau fferylliaeth i gyflawni tasgau mewn modd cywir ac amserol, darparu cefnogaeth weinyddol a chlerigol ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â’r fferyllfa ddosbarthu. Gan gynnwys bod yn berson cyfrifol arweiniol i hwyluso defnyddio system olrhain y fferyllfa, gan sicrhau bod gwasanaeth fferyllfa diogel ac effeithlon yn cael ei ddarparu tra’n darparu gofal o’r ansawdd uchaf.
Cynorthwyo wrth recriwtio staff, cyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs), cynhyrchu rotaiau a chynhyrchu adroddiadau gan ddefnyddio system olrhain y fferyllfa a Gweithio o fewn Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs).
Cynorthwyo gyda rheoli a darparu rheoli meddyginiaethau ger y claf i glaf mewnol ar draws safleoedd BCUHB.
Fe roddir cyfleoedd i chi wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymhellach drwy ddatblygiad a gefnogir gan ein tîm cyfeillgar a phrofiadol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- TGAU neu gymhwyster cyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch
- NVQ lefel 2 mewn Gwasanaethau Fferyllol
- Cymhwyster Lefel 2 Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu gymhwyster cyfatebol neu barodrwydd i weithio tuag ato
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster gwirio cywirdeb staff cymorth, neu barodrwydd i weithio tuag ato
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Wedi gweithio mewn ardal ddosbarthu mewn adran fferyllol ysbyty
- Profiad o arwain tîm, hyfforddi a mentora staff
- Profiad o weithio mewn amgylchedd tîm amlddisgyblaethol. Gwybodaeth am Ddangosyddion Perfformiad Allweddol
Meini prawf dymunol
- Gallu y gellir ei ddangos i gwrdd â therfynau amser a gweithio i dargedau
- Profiad o ddatrys anghydfod
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Chwaraewr Tîm
- Gallu i drefnu rota a blaenoriaethu llwythi gwaith, rheoli eich amser/tasgau eich hun a rhai eraill
- Gallu i ddatrys problemau cyffredin o ddydd i ddydd
- Hyblyg ac yn gallu addasu i ofynion a sefyllfaoedd sy'n newid
- Ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau’r Iaith Gymraeg o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn ddymunol, ar lefel 1 i 5
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jessica Knowles
- Teitl y swydd
- Senior Pharmacy Technician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 845421
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Jessica Knowles - Senior Pharmacy Technician
03000 845421
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector