Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST155-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Technegydd Fferyllol Arbrofion Clinigol
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn ceisio Technegydd Fferyllydd gyda phrofiad ac sydd yn ddeinamig i weithio yn ein gwasanaeth rhanbarthol fferyllydd teialon clinigol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus gyda phrofiad helalth o sefydlu a rheoli gasanaethau fferyllfa trialon clinigol, gyda dealltwriaeth cryf o’r fframwaith deddfwriaeth a rheoleiddio sydd yn llywodaethu treialon clinigol. Bydd profiad gyda gwasanaethau canser yn fuddiol, gan fod cyfaint sylweddol o dreialon clinigol cymleth o oncoleg a haematoleg ar draws y rhanbarth.
Mae’r rol yma angen unigolyn cymell sydd yn gallu helpio i weithio wneud yn siwr fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu i’r safon uchaf. Byddwch yn gyfrifol am helpu cefnogi symudiad, a gofalu bod cydymffurfiad trwy gynnal ffocws claf-ganolog.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
1. Cyfrannu at y gwaith o ddarparu gwasanaeth dosbarthu ar gyfer cleifion treialon clinigol. Defnyddio a sicrhau y cydymffurfir ag egwyddorion Arferion Clinigol Da yn y gwaith o reoli treialon clinigol, cynnal cofnodion dosbarthu gan gynnwys deunyddiau treialon clinigol.
2. Rheoli gwasanaeth treialon clinigol y fferyllfa o ddydd i ddydd o dan gyfarwyddyd cyffredinol y fferyllydd sy'n goruchwylio gan sicrhau gwasanaeth effeithlon ac amserol i bob defnyddiwr.
3.Gwirio presgripsiynau yn dechnegol fel Technegydd Gwirio Fferylliaeth Achrededig a chynnal cymwyseddau ac achrediadau yn y maes hwn.
4. Ysgrifennu gweithdrefnau fferylliaeth ar gyfer y gwaith o reoli Cynhyrchion Meddyginiol Ymchwiliadol drwy ddefnyddio dogfennau ffynhonnell fel y protocol a chanllaw'r fferyllfa
5. Gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol, a defnyddio blaengaredd i ymdrin â phroblemau, ymholiadau a cheisiadau brys gan gyfeirio at yr uwch-dechnegydd neu fferyllydd os bydd angen.
Gweler y Disgrifiad Swydd am ddyletswyddau pellach.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Technegydd Fferylliaeth Gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
- NVQ Lefel 3 mewn Gwasanaethau Fferylliaeth gyda Thystysgrif Genedlaethol Btec mewn Gwasanaethau Fferylliaeth neu gyfwerth
- Cymhwyster Technegydd Fferylliaeth Achrededig Cenedlaethol WCPPE
Meini prawf dymunol
- Aelodaeth o gymdeithas broffesiynol berthnasol y DU
Experience
Meini prawf hanfodol
- Gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol
- Rhaid gallu dangos lefel briodol o brofiad.
- Dosbarthu cyffredinol
- Profiad o systemau meddyginiaethau sy'n canolbwyntio ar gleifion
Aptitude and ability
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Y gallu i gadw cyfrinachedd
- Y gallu i gymhwyso gwybodaeth a gafwyd i'r gweithle
- Y gallu i reoli llwyth gwaith eich hun
- Y gallu i addasu i newid a gweithio ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm
Values
Meini prawf hanfodol
- Yn llawn cymhelliant, yn ddibynadwy ac yn drefnus
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o'r tîm
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lona Tudor Jones
- Teitl y swydd
- Research and Development Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector







.png)
