Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Meddygaeth
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC506-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/07/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cydlynydd Anadlu'r Ysgyfaint

Gradd 4

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn rôl arloesol a newydd a bydd deilydd y swydd yn aelod allweddol o Dîm Amlddisgyblaethol yr Ysgyfaint yn gweithio’n annibynnol, ond dan arweiniad a goruchwyliaeth ymarferydd cofrestredig, i gynorthwyo’r llwybr diagnosis cynnar i gleifion sydd ag amheuaeth o ganser yr ysgyfaint, ei gefnogi a’i gydlynu a rhoi cefnogaeth drwy gydol y llwybr.

Oes gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd, cefnogi ystod o gydweithwyr amlddisgyblaethol a rhyngweithio â chleifion a’u gofalwyr?

Oes gennych ystod eang o sgiliau IT a gwybodaeth a phrofiad o weithio â phecynnau meddalwedd?

Oes gennych sgiliau cyfathrebu a threfnu ardderchog?

Bydd angen i chi fod â sgiliau dylanwadu a thrafod ardderchog, gwybodaeth o bolisïau’r GIG, yn enwedig gan eu bod yn ymwneud â rheoli risg, diogelu data a chyfrinachedd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rôl y Cydlynydd Llwybr Canser yw darparu gwasanaeth olrhain gweinyddol a chydlynu apwyntiadau cynhwysfawr ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint tybiedig yn ystod rhan gynnar eu hymchwiliadau. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais yn yr un modd.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ 3 neu brofiad cyfatebol
  • Pum TGAU Saesneg a Mathemateg A-C neu gymhwyster cyfatebol
  • Parodrwydd i weithio tuag at Lefel 4
Meini prawf dymunol
  • ECDL neu gyfwerth
  • Gweithio tuag at Radd Sylfaen

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad perthnasol blaenorol mewn amgylchedd gofal iechyd sy'n gweithio mewn rôl dan oruchwyliaeth anuniongyrchol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o System Gweinyddu Cleifion

Sgiliau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o sgiliau cyfarthrebu
  • Gofal, tosturi a dealltwriaeth
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau addysgu sylfaenol
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dorothy Henley
Teitl y swydd
clerical Service co-ordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 845039
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Laura Iles

Rheolwr Cymorth Gwasanaeth Cynorthwyol - Meddygaeth

[email protected]

03000 850836

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg