Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Employee Engagement
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC342-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Yn agored i drafodaeth
- Tref
- Yn agored i drafodaeth
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 per annum, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 29/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Uwch Ymarferydd Ymgysylltu â Gweithwyr
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cychwyn ar ddull hirdymor o ddatblygu ei diwylliant, arweinyddiaeth a'm hymgysylltiad. Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn a blaenoriaethau datblygu sefydliadol allweddol eraill, rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o ymsysylltu gyda gweithwyr a fydd yn ein cefnogi i ddatblygu a chyflwyno strategaethau ymgysylltu gyda'r gweithlu effeithiol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am rywun sy'n brofiadol, hyderus ac sydd â gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd lefel uchel ym maes profiad ac ymgysylltu staff. Mae'r rôl yn gofyn am rywun sydd ag ymagwedd dosturiol, agored a chynhwysol, a'r sgiliau i allu hwyluso, datblygu perthnasoedd a chefnogi eraill i gymryd rhan mewn archwilio a datblygu newid diwylliant o fewn sefydliad mawr cymhleth.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso hafal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgesio am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol a gwybodaeth bellach cysylltwch drwy ebost [email protected]
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau ac Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu gyfwerth
- Gyrwyr a pholisïau allweddol sy'n ymwneud â'r agenda eang o Ddatblygu Sefydliadol ac Ymgysylltu â Chyflogeion
- Strategaethau Ymgysylltu â Gweithwyr
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ymgysylltu ar lefel uwch mewn amgylchedd cymhleth
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Barn gadarn, gwneud penderfyniadau a sgiliau trefnu
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Katie Sargent
- Teitl y swydd
- Associate Director - Employee Engagement
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector