Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deietegol
Gradd
Gradd 3
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (Tan 31/03/2027 - Oherwydd cyllid)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (gall gynnwys nosweithiau)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS124-0326
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Adeilad Clwyd Alyn
Tref
Llanelwy
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/04/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Deieteg - rheoli pwysau

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

 

Trosolwg o'r swydd

MAE'R SWYDD HON YN GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS I CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn maeth, iechyd a rheoli pwysau, ac yn edrych i ddatblygu eich sgiliau mewn rôl gyffrous? Yna dewch i ymuno â'n tîm Deieteg deinamig sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru!

Mae cyfle gwych wedi codi i Gynorthwyydd Deietegol Band 3 hwyluso hwyluso cyflwyno Gwasanaeth Rheoli Pwysau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB). Mae'r gwasanaeth yn cyd-fynd â Llwybr Rheoli Pwysau Cymru ar Lefel 2, a yn cynnig cyfleoedd ar sail tystiolaeth i bobl yng Ngogledd Cymru sy'n dymuno colli pwysau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y Cynorthwyydd Deieteg yn cefnogi'r Deietegwyr i ddatblygu, gweithredu, darparu a gwerthuso arfer gorau mewn perthynas â'r Gwasanaeth Lefel 2 ar draws y Bwrdd Iechyd, gan weithio fel aelod annatod o dimau amlasiantaethol, ac mewn partneriaeth â nhw. Bydd y Gwasanaeth yn cynnwys Arweinydd y Gwasaneath,  Deietegydd Tim Arweiniol, Ddietegydd Arbenigol, a Chynorthwyydd Deieteg, sy'n gweithio ar draws y Bwrdd Iechyd.

Byddwch hefyd yn parhau i fod yn aelod allweddol o'r tîm dietetig, gan ymuno â thîm brwdfrydig a chyfeillgar o dros 80 o ddietegwyr sy'n darparu gwasanaethau mewn gofal acíwt a sylfaenol, ac iechyd y cyhoedd. Rydym yn darparu lleoliadau clinigol i fyfyrwyr, ac mae gennym gefnogaeth ysgrifenyddol a chynorthwyol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Fframwaith Credydau Ansawdd ar lefel 3 e.e. NVQ yn ymwneud ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu weithio tuag at, (neu gyfwerth); Tystiolaeth ddogfennol o gyfranogiad mewn gweithgareddau hyfforddi
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth o gorff proffesiynol a/neu grŵp diddordeb arbennig. Gradd mewn pwnc cysylltiedig â maeth.

Profiad / Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o rôl y Dietegydd. Profiad perthnasol o weithio mewn lleoliadau iechyd, cymdeithasol neu addysg. Gwybodaeth sylfaenol am rai cyflyrau a allai effeithio ar faeth a hydradiad mewn oedolion, sy'n berthnasol i'r rôl. Hunan-gymhelliant ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phobl â heriau cyfathrebu/anghenion ychwanegol eraill. Profiad mewn sefydliad clinigol a/neu arlwyo. Profiad o baratoi/arddangos bwyd ymarferol. Gwybodaeth sylfaenol o egwyddorion Rheolaeth Glinigol. Ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth ac arferion Iechyd a Diogelwch.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kate Runcie
Teitl y swydd
Head of Dietetics Central
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000846995
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am fanylion pellach, cysylltwch â

Sue Brierley-Hobson

[email protected]

03000 855986

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg