Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
English
Gradd
Band 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
001-AC093-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tower Building, Cardiff University
Tref
Cardiff
Cyflog
£26,928 - £29,551 per anum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/06/2025 23:59

Teitl cyflogwr

NHS

CAAPs Coordinator

Band 4

PWY YDYM NI:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r Byrddau Iechyd Integredig mwyaf yn y DU, sy’n cyflogi dros 16,000 o staff ac yn darparu dros 100 o wasanaethau arbenigol. Gan wasanaethu poblogaeth o oddeutu 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn canolbwyntio ar anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth leol, gan weithio gyda’n partneriaid hefyd i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol. Ar y cyd, rydym yn ymrwymedig i wella canlyniadau iechyd i bawb a darparu gofal a chefnogaeth ragorol.

Ein cenhadaeth yw “Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd”. Yn ddiweddar, rydym wedi adnewyddu ein strategaeth, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, sy’n nodi Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwella iechyd a lles y poblogaethau rydym yn eu gwasanaethu erbyn 2035 trwy gyflawni ein hamcanion strategol; Rhoi Pobl yn Gyntaf, Darparu Ansawdd Rhagorol, Cyflawni yn y Mannau Cywir a Gweithredu ar gyfer y Dyfodol. Mae gennym gyfnod heriol o’n blaenau, ond rydym yn hyderus, drwy fynd i’r afael â’r heriau hyn gyda’n gilydd, y gallwn gefnogi pobl i fyw bywydau iachach a lleihau’r gwahaniaethau annheg yn nifer yr achosion o salwch a’r canlyniadau iechyd a welwn yn ein cymunedau heddiw. Ein nod yw darparu gofal a thriniaeth ragorol i bobl pan fydd eu hangen arnynt, lle mae eu hangen arnynt; gofal sy’n cymharu’n dda â’r gorau yn y byd, ond i wneud hynny mae angen i ni drawsnewid sut yr ydym yn darparu gwasanaethau dros y degawd nesaf a thu hwnt.

Rydym yn sefydliad sy’n cael ei yrru gan werthoedd, a dim ond os yw ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn y caiff ein nodau eu gwireddu. Wedi’u creu gan gydweithwyr, cleifion a’u teuluoedd, a gofalwyr, mae ein gwerthoedd fel a ganlyn:

·         Rydym yn garedig ac yn ofalgar

·         Rydym yn barchus

·         Mae gennym ymddiriedaeth ac uniondeb

·         Rydym yn cymryd cyfrifoldeb personol

EIN RHANBARTH:

Mae gan Gymru lawer i’w gynnig gyda milltiroedd o arfordir trawiadol, safleoedd treftadaeth y byd UNESCO a chefn gwlad hardd. Mae gan Gaerdydd, prifddinas ffyniannus Cymru, rywbeth at ddant pawb. Mae’n ddinas wych i fyw a gweithio ynddi sy’n cynnig llwyth o atyniadau chwaraeon, celfyddydau a diwylliannol. Wedi’i leoli i’r gorllewin o Gaerdydd, mae Bro Morgannwg yn cynnig cyfuniad o gefn gwlad hardd Cymru ac arfordir naturiol dramatig, yn ogystal â threfi prydferth yn cynnwys Penarth a’r Bont-faen. Mae’n bosibl y bydd y rhai hynny sy’n chwilio am fwy o ddiwylliant yn cael eu denu at yr Amgueddfa Genedlaethol, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru neu Ganolfan y Mileniwm, cartref Opera Cenedlaethol Cymru. P’un ai’n fywyd dinesig neu’n fywyd gwledig, mae Caerdydd a’r Fro yn cynnig y gorau o’r ddau fyd.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau


 

Trosolwg o'r swydd

Band 4 – Cydlynydd Rhaglen Cydymaith Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol 0.8 neu 1.0 CALl  

Mae gennym swydd wag lawn amser gyffrous ar gyfer Cydlynydd Rhaglen Cydymaith Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol.  

Mae'r rôl hon yn llawn amser, fodd bynnag mae rhywfaint o hyblygrwydd ar gael o ran y patrwm gweithio, a phosibilrwydd i weithio'n rhan amser am 0.8 CALl.   

Mae'r Rhaglen Cydymaith Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol yn gwrs MSc a sefydlwyd yn ddiweddar a gynhelir mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Byrddau Iechyd y GIG yng Nghymru, am y tair blynedd diwethaf. Bydd hyfforddeion ar y rhaglen yn gweithio yn y GIG ac yn mynd  i’r Brifysgol i'w haddysgu ar gyfnodau penodol. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r swydd yn darparu rôl cydlynu gweinyddol a bydd yn gweithio gyda staff seicoleg glinigol a thiwtoriaid academaidd i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen newydd hon. Bydd deiliad y swydd yn ymwneud â chynorthwyo i sefydlu addysgu, casglu a choladu gwaith cwrs, a chysylltu â Byrddau Iechyd cyflogwyr. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein a chymryd cofnodion.  Mae'r rôl hefyd yn cynnwys darparu rhywfaint o gymorth gweinyddol ychwanegol i'r tîm rhaglen hyfforddi seicoleg glinigol yn ôl yr angen. 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r Byrddau Iechyd Integredig mwyaf yn y DU, yn cyflogi dros 17,000 o staff ac yn darparu dros 100 o wasanaethau arbenigol. Mae gennym amrywiaeth o yrfaoedd i’w cynnig ar draws 6 safle ysbyty. Gan wasanaethu dros 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro, ein ffocws yw anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth leol a gwaith partneriaeth i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol. Ar y cyd, rydym yn ymrwymedig i wella canlyniadau iechyd i bawb a darparu gofal a chefnogaeth ragorol.

Ein cenhadaeth yw “Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd”, a’n gweledigaeth yw y dylai siawns pob unigolyn o fyw bywyd iach fod yn gyfartal. Ein strategaeth trawsnewid a gwella 10 mlynedd, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, yw ein cyfle i gydweithio â’r cyhoedd a’n gweithlu i sicrhau bod ein bwrdd iechyd yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd cyfleoedd i ddatblygu sgiliau gweinyddol ymhellach a byddai disgwyl i ddeiliad y swydd weithio'n agos a chefnogi'r tîm gweinyddol yn y rhaglen ddoethuriaeth seicoleg glinigol sefydledig. 

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl weinyddol newydd a chyffrous hon gyda’r GIG/Prifysgol, cysylltwch â:  

Kerrianne Trotman, Uwch Reolwr Gweinyddol y Rhaglen 

02920 870545 

Manyleb y person

english

Meini prawf hanfodol
  • Substantial administration experience
  • Aware of NHS and University systems and processes
Meini prawf dymunol
  • Experience in managing stake holders

English

Meini prawf hanfodol
  • IT Skills

English

Meini prawf hanfodol
  • Able to priorities workload

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareApprenticeships logoAge positiveDisability confident leaderhyderus o ran anableddAccredited Living Wage EmployerDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldArmed Forces CovenantDFN Project Search LogoStonewall Top 100 Employers in 2023Stonewall Top 100 Employers in 2023Core principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kerrianne Trotman
Teitl y swydd
Senior Programme Administration Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920870545
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Kerrianne Trotman

Senior Programme Administration Manager

[email protected]

02920870545

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg