Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Caffael
Gradd
Band 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
043-AC168-0925
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tŷ Gorwel
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Caffael Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid

Band 3

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Mae Strategaeth Gaffael GIG Cymru yn gosod gweledigaeth a chyfeiriad Gwasanaethau Caffael drwy "Sicrhau gwerth i GIG Cymru drwy wasanaethau sy'n canolbwyntio ar bobl" drwy ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i gefnogi'r Byrddau Iechyd a'r Ymddiriedolaethau wrth iddynt gofalu am gleifion. Mae Adran Gaffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gyfrifol am gyflwyno proses Caffael i Dalu gyfannol i bob Bwrdd/Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae cyfle wedi codi i ymuno â’r sefydliad cyffrous a deinamig hwn sydd wedi’i leoli yn Nhîm Caffael Rheng Flaen Hywel Dda.
Fel rhan o’r tîm rheng flaen, byddwch yn aelod allweddol o’r tîm sy’n gyfrifol am gyflawni Strategaeth Gaffael PCGC a byddwch yn cefnogi’r Bwrdd Iechyd i gyflawni ei nodau strategol.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa caffael mewn amgylchedd cefnogol, deinamig, amrywiol a heriol, gan weithio ar flaen y gad o ran darparu nwyddau a gwasanaethau sy’n cynnig gwerth am arian i’r GIG a thrwy hynny’n cefnogi llesiant a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Nod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yw galluogi’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o’r radd flaenaf, a hynny trwy ganolbwyntio ar y cwsmer, cydweithredu ac arloesi.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n arddel ein gwerthoedd:
* Gwrando a dysgu
* Gweithio gyda’n gilydd
* Cymryd cyfrifoldeb
* Arloesi
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais

Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd. 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Safon Uwch/ Addysg hyd at NVQ Lefel 3/ Dystysgrif uwch mewn caffael a chyflenwi
  • Y gallu i arddangos dealltwriaeth o swydd sy’n cynnwys egwyddorion prynu sylfaenol, rheoli stoc, a gofal cwsmeriaid, neu wedi gweithio mewn swydd o’r fath
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Caffael neu Gyfrifyddu ar lefel sylfaen neu brofiad cyfwerth
  • Gwybodaeth am Systemau Rheoli Ariannol Oracle

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o amgylchedd swyddfa prysur
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o Gyllid a/neu Gaffael yn y GIG
  • Sicrhau Ansawdd
  • Defnyddio Systemau Rheoli Ariannol
  • Profiad mewn swyddogaeth gaffael

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Arddangos hyder wrth ddefnyddio ffigurau
  • Yn gallu defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd TG fel Microsoft Excel a Word
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser effeithiol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Yn gallu cyfathrebu â staff ar bob lefel a disgyblaeth yn y sefydliad
  • Cywirdeb, a’r gallu i roi sylw i fanylion
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau rheoli a threfnu effeithiol

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Cymhelliant Hyblyg a’r gallu i ymaddasu

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau ApprenticeshipsArmed Forces Bronze Award NWSSP

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gemma Deverill
Teitl y swydd
Deputy Head of Procurement
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Sian John, [email protected] 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg