Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Band 3
Contract
Secondiad: 7 mis (Yn dod i ben ar 31 Mawrth 2027)
Oriau
  • Rhan-amser
  • Gweithio gartref neu o bell
18.75 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC139-0726-B
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Sgrinio'r Coluddyn Cymru
Tref
Llantrisant
Cyflog
£26,813 - £27,890 Y Flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/09/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Gweinyddwr Hyfforddiant Sgrinio - MEWNOL

Band 3

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn ac Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.

Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.

 


 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM SECONDIAD TAN 31 MAWRTH 2027 OHERWYDD CYLLIDO 

NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON. 

 

Mae hon yn ail-hysbyseb o fis Ebrill. Dylai ymgeiswyr a gyfwelwyd yn flaenorol ystyried yr adborth a roddwyd iddynt cyn ailymgeisio. 

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru sy'n cyflogi tua 2300 o bobl. Cymerwch funud i ddarllen ein dogfennau ychwanegol i gael gwybod rhagor am yr hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn gweithio i sicrhau dyfodol iachach i Gymru.  

Mae pob rhan o'n sefydliad yn chwarae rhan enfawr wrth gyfrannu at saith blaenoriaeth ein Cynllun Strategol, ac fel rhan o'n cyfraniad, mae'r Adran Sgrinio yn chwilio am unigolyn sydd ag egni ac uchelgais i ymuno â'i thîm Hyfforddi.  

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn rhoi cymorth gweinyddol i'r tîm Hyfforddi sy'n darparu amrywiaeth eang o ddysgu a datblygu achrededig a heb ei achredu i’n staff sgrinio. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod pob dyletswydd weinyddol yn cael ei chynnal yn unol â gofynion y cyrff dyfarnu ac fel rhan o'r Fframwaith Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd.   

 

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn gyfrifol am y canlynol: 

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Gweithio fel rhan o Dîm Hyfforddi Canolog yr Adran Sgrinio i roi cymorth gweinyddol i Aseswyr, Sicrwydd Ansawdd Mewnol a Rheolwyr Datblygu'r Gweithlu. 

  • Rhoi cymorth gweinyddol ar gyfer cyflwyno Lefel 3 Hanfodion Sgrinio Iechyd a'i llwybrau cysylltiedig i'r Tîm Hyfforddiant Canolog Sgrinio. 

  •      Mae'r rôl hon yn cefnogi Tîm Datblygu’r Gweithlu Sgrinio (SWDT) gyda gweithgareddau dysgu a datblygu. Mae hyn yn cynnwys tasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig ag asesu, sicrhau ansawdd a chefnogi dysgwyr.

·     Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau partner, yn cwrdd â therfynau amser ac yn cynnal safonau proffesiynol. Canllaw yn unig yw'r dyletswyddau a restrir a gallant newid, felly mae hyblygrwydd yn bwysig.

·     Mae ein gwerthoedd sefydliadol o Gydweithio, gydag Ymddiriedaeth a Pharch, i Wneud Gwahaniaeth, a ategwyd gan ein Fframwaith Bod ar Ein Gorau yn nodi sut y disgwylir i ni gyflawni ein rolau. Y grŵp cydweithwyr Bod ar ein Gorau sy'n berthnasol i'r rôl hon yw Cydweithiwr.

Fel rhan o'r rôl, efallai y gofynnir i ddeiliad y swydd weithio ar draws yr is-adran sgrinio yn ôl yr angen.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – yr asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol yng Nghymru. Ein pwrpas yw ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Gyda'n partneriaid, rydym yn gweithio i gynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae ein timau'n gweithio i atal clefydau, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd y cyhoedd. Ni yw prif ffynhonnell gwybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru.  Mewn byd sy'n wynebu heriau iechyd cymhleth, nid yw ein gwaith erioed wedi bod mor bwysig. 

Rydym yn cael ein harwain gan ein Gwerthoedd, 'Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac sy'n cefnogi trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rolau rhan-amser a rhannu swyddi.

I gael gwybod rhagor am weithio i ni a’r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i 

https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i

https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

·       Gweithredu yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mewnol ac allanol sy'n ymwneud â gweithgareddau dysgu a datblygu.

·       Cyfathrebu'n broffesiynol a chyda pharch â phob rhanddeiliad, yn cynnwys dysgwyr, a sicrhau cyfrinachedd a dilyn prosesau y cytunwyd arnynt.

·       Monitro ac ymateb i e-byst a chyfathrebiadau eraill y tîm, sy’n cynnwys rheoli blychau post SWDT ac ESR a rennir, ar gydymffurfedd dysgu.

·       Cefnogi aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol drwy ddarparu dogfennau canllaw a dolenni i ddeunyddiau hyfforddi perthnasol, neu gyfeirio yn ôl yr angen.

·       Cefnogi prosesau caffael a chyllidebu.

·       Darparu cefnogaeth weinyddol ar brosiectau i reolwyr SWDT.

·       Darparu cefnogaeth gynllunio a threfnu i staff a rhanddeiliaid SWDT ar draws yr Is-adran Sgrinio.

·       Rheoli eich llwyth gwaith eich hun gan gynnwys negeseuon e-bost a thasgau dyddiadur.

 

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

 

Manyleb y person

Qualifications and Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Wedi derbyn addysg hyd at gymhwyster Lefel 4, neu lefel gyfatebol o wybodaeth a sgiliau neu brofiad
  • Lefel uchel o hyfedredd mewn cymwysiadau MS Office
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster TG neu dystiolaeth o ymarfer cyfredol, diweddar
  • Gwybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i raglenni sgrinio
  • Gwybodaeth am weinyddu dysgu a datblygu a'r gweithdrefnau cysylltiedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad y gellir ei ddangos mewn rôl weinyddol
  • Profiad y gellir ei ddangos o gyfathrebu â chydweithwyr a'r cyhoedd
  • Profiad blaenorol o brosesu data cyfrinachol ac ymwybyddiaeth o ofynion llywodraethu gwybodaeth
  • Profiad blaenorol o reoli llwyth gwaith personol a blaenoriaethu tasgau
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd dysgu a datblygu

sgiliau a rhinweddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, lefel uchel o sgiliau rhifedd, a Saesneg ysgrifenedig a llafar
  • Y gallu i arfer disgresiwn a chynnal cyfrinachedd
  • Wedi'i drefnu'n dda iawn, gyda sgiliau rheoli amser da
  • Gallu effeithiol i feithrin perthnasoedd, gyda meddylfryd sy'n canolbwyntio ar waith tîm
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i addasu sgiliau i amgylchedd sy'n newid, anghenion busnes a llwyth gwaith

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Karen Jordan
Teitl y swydd
Lead Internal Quality Assurance Coordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg