Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Oncology
- Gradd
- NHS Medical & Dental: Specialist Grade
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Amser penodedig am ddeuddeg mis)
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-MD171-1125
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Ganser Felindre
- Tref
- Yr Eglwys Newydd
- Cyflog
- £100,870 - £111,442 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/11/2025 23:59
Teitl cyflogwr
Specialist Grade Doctor
NHS Medical & Dental: Specialist Grade
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r Gwasanaeth Sarcoma yng Ngwasanaeth Canser Felindre yn darparu gofal radiotherapi a therapi systemig arbenigol iawn i gleifion â sarcoma meinwe meddal ac esgyrn ledled De-ddwyrain Cymru. Derbynnir oddeutu 40–50 o atgyfeiriadau sarcoma newydd yn flynyddol, yn cynnwys 4–5 o gleifion yn eu harddegau ac oedolion ifanc (TYA) sy'n cael eu rheoli mewn cydweithrediad ag Uned Pobl Ifanc ac Oedolion Ifanc Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae'r swydd newydd hon wedi'i sefydlu i gynnal sefydlogrwydd a pharhad y gwasanaeth. Bydd y Meddyg Gradd Arbenigol yn gweithio fel rhan o'r Tîm Sarcoma amlddisgyblaethol i ddarparu gofal oncoleg o ansawdd uchel o fewn fframwaith llywodraethu clir a chyda goruchwyliaeth ymgynghorydd wedi'i diffinio.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
· Darparu asesiad clinigol, triniaeth a gofal dilynol i gleifion â sarcoma meinwe meddal ac esgyrn yn unol â phenderfyniadau'r tîm amlddisgyblaethol a phrotocolau y cytunwyd arnynt.
· Rhagnodi, monitro ac adolygu therapi gwrth-ganser systemig (SACT) o fewn protocolau cymeradwy Canolfan Ganser Felindre.
· Cymryd rhan yng nghyfarfod wythnosol tîm amlddisgyblaethol Sarcoma De Cymru a chyfrannu at gynllunio triniaethau.
· Cysylltu â chlinigwyr sy'n atgyfeirio, y gwasanaeth TYA yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a phartneriaid trydyddol eraill i sicrhau gofal cydlynol i gleifion.
· Adolygu gwenwyndra triniaethau ac uwchgyfeirio achosion cymhleth neu annodweddiadol i'w hadolygu gan ymgynghorydd.
· Cefnogi’r gwaith o gyflwyno treialon clinigol sarcoma mewn cydweithrediad â'r tîm Treialon Clinigol.
Mae'r swydd hon yn un tymor penodol am 12 mis er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
· Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- MBBS neu gymhwyster meddygol cyfatebol
- Cofrestriad y Cyngor Meddygol Cyffredinol a thrwydded i ymarfer
- Gwybodaeth am egwyddorion oncoleg a therapi gwrth-ganser systemig
- Dealltwriaeth o waith y tîm amlddisgyblaethol a llwybrau triniaeth sarcoma
Meini prawf dymunol
- MRCP neu gymhwyster ôl-raddedig cyfatebol
- Gradd uwch (MD, PhD) neu brofiad ymchwil cyfatebol
- Gwybodaeth am brosesau a llywodraethu treialon clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • O leiaf 12 mlynedd o brofiad meddygol ers ennill cymhwyster ôl-raddedig, gyda lleiafswm o 6 mlynedd fel meddyg Arbenigol / SAS neu gyfwerth mewn oncoleg
- Profiad o reoli oncoleg cleifion allanol
- Cyfranogiad mewn archwiliadau clinigol, addysgu, a chyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol
- Profiad o reoli sarcoma neu ganserau prin
- Profiad o ddarparu therapi gwrth-ganser systemig yn annibynnol o fewn fframweithiau llywodraethu
Meini prawf dymunol
- Profiad o gyfrannu at ymchwil neu dreialon clinigol
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
- Yn gallu gweithio'n effeithiol o fewn tîm amlddisgyblaethol
- Barn glinigol gadarn a sgiliau gwneud penderfyniadau o fewn cwmpas yr ymarfer
- Ymrwymiad i lywodraethu clinigol a diogelwch cleifion
- Cymryd rhan mewn addysgu a mentora staff iau
- Sgiliau wedi'u profi mewn arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm
- Tystiolaeth o ymchwil, hyfforddiant a arloesedd
Meini prawf dymunol
- Arweinyddiaeth mewn prosiectau gwella gwasanaethau
- Yn gallu cyfrannu at ymchwil ac arloesedd mewn oncoleg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac addysg
- Cymhwysedd i weithio yn y DU
- Dull hyblyg ac addasadwy o ymdrin ag anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Diddordeb mewn dilyn llwybr CESR neu Gofrestru Arbenigol
- Diddordeb mewn cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau sarcoma ledled De Cymru
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nicola Hughes
- Teitl y swydd
- Head of Medical Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector






.png)