Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol: Llawn-amser, ond bydd oriau rhan-amser yn cael eu hystyried
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC206-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Gofal Integredig Aberteifi
- Tref
- Aberteifi
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/07/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 12/08/2026
Teitl cyflogwr
Swyddog Gweinyddiaeth - Gofal Canolradd
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae ein tîm Nyrsio Cymunedol a Proffesiynau Iechyd Cysylltiedig yn newid. Wrth i fwy o bwyslais gael ei roi ar ofal canolradd/cymunedol integredig, nid oes yna amser gwell i ymuno â ni. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, hyblyg a threfnus i ymuno â'n tîm proffesiynol. A allech ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad i gefnogi'r broses o ddarparu gofal gwych?
Mae'r rôl yn un bwysig gan y byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth, eich profiad a'ch arbenigedd i ddarparu cymorth ar gyfer timau rheng flaen sy'n gweithio'n galed. Rydym yn rhoi cleifion/pobl gyntaf, a disgwyliwn i bob cyd-weithiwr wneud yr un fath, felly byddangen i chi rannu angerdd ein tîm dros ddarparu gofal rhagorol i gleifion, a sicrhau bod yr angerdd hwnnw bob amser wrth wraidd eich gweithgarwch proffesiynol.
Mae yna doreth o heriau yn y rôl hon, ond byddwch yn gwybod bod eich mewnbwn yn cyfrannu at y profiad rhagorol y mae ein cleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau yn ei gael bob dydd.
Mae'r gwasanaeth ar gael 7 diwrnod yr wythnos 08:00 - 20:00 gan gynnwys gwyliau banc.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn aelod allweddol, sy’n darparu pwynt canolog ar gyfer atgyfeirio a darparu gwasanaethau cymunedol integredig, gan hwyluso'r broses o ddarparu gofal diogel ac amserol ar gyfer ein poblogaeth. Disgwylir i'n Cydlynwyr fod yn garedig ac yn ymatebol, yn broffesiynol ac yn llawn gwybodaeth, a chyfrannu at ansawdd ein gwasanaethau trwy amlygu'r ymddygiadau a nodir yn ein Gwerthoedd.
Bydd ymholiadau'n dod i law dros y ffôn, trwy e-bost ac mewn sgyrsiau wyneb yn wyneb, a byddwch yn datrys materion trwy ddefnyddio eich profiad o lwybrau a phrosesau. I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd arnoch angen sgiliau rheoli amser rhagorol, a bydd yn rhaid i chi allu gweithio ar eich menter eich hun, yn ogystal â blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun heb fawr ddim goruchwyliaeth.
Mae'r rôl yn amrywiol, ac yn cynnwys derbyn atgyfeiriadau, bod yn rhan o drafodaethau'r tîm amlddisgyblaethol, cysylltu a threfnu gwasanaethau. Byddwch yn gweithio gyda nifer o weithwyr proffesiynol gwahanol mewn amgylchedd prysur, cefnogol. Byddai rhywfaint o wybodaeth am y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fuddiol gan y byddwch yn delio ag atgyfeiriadau a llwybrau amrywiol, yn casglu gwybodaeth ac yn cydgysylltu ymatebion.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 12/08/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel Diploma (lefel 4) neu brofiad cyfatebol a pharodrwydd i weithio tuag at y diploma
- Gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddol, gan gynnwys systemau TG, rheoli prosiectau a hyfforddiant
Meini prawf dymunol
- Ymwybyddiaeth o Lywodraethu Clinigol a Llywodraethu Gwybodaeth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol mewn rôl yn y GIG neu rôl awdurdod lleol
- Profiad o weithio dan eich cyfarwyddyd eich hun ond gan wybod pryd i ofyn am gymorth neu gyngor
- Profiad o gefnogi gwelliant mewn gwasanaeth
- Profiad mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
- Tystiolaeth o weithio gyda systemau TG, gan gynnwys Word, Access, Excel
Sgiliau Iaith
Meini prawf hanfodol
- Rhaid bod yn deallgar i ac yn gefnogol i nodau Deddf y Gymraeg.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bianca Oakley
- Teitl y swydd
- Clinical Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01239 803075
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





