Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC095-0426
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen, Parc Dewi Sant
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£32,557 - £39,631 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/04/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
05/05/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Gwella'r Gwasanaeth a Chymorth Busnes

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

Mae'r tîm Gofal Sylfaenol yn bwriadu recriwtio gweinyddwr busnes profiadol i arwain a rheoli tîm cymorth busnes canolog. Mae'r tîm o chwech yn gweithio gyda chyd-weithwyr ledled y tîm Gofal Sylfaenol ehangach i gefnogi'r broses o ddarparu gwasanaethau Gofal Sylfaenol effeithlon, effeithiol a diogel trwy weithio gyda phractisau meddygon teulu, fferyllfeydd cymunedol, practisau deintyddol a rhanddeiliaid eraill. 

Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio'n annibynnol yn ogystal â rhan o dîm, ac sydd â'r gallu i gynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith i gwrdd â therfynau amser.

Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol a hyderus, a gellir ymddiried ynoch i ddelio â materion cyfrinachol o ddydd i ddydd.

Byddwch yn gweithio gyda phartneriaid ac asiantaethau mewnol ac allanol y Bwrdd Iechyd, e.e. uwch-aelodau o'r Bwrdd Iechyd, swyddogion Llywodraeth Cymru, contractwyr annibynnol, aelodau o'r cyhoedd, ac ati. 

Mae hon yn rôl gyffrous a fydd yn rhoi dirnadaeth ragorol i chi o'r modd y caiff gwasanaethau Gofal Sylfaenol eu darparu.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch chi a'ch tîm yn gyfrifol am drefnu rhaglen o gyfarfodydd i gefnogi rhaglen waith Gofal Sylfaenol. 

Bydd hyn yn cynnwys paratoi agendâu a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd allweddol, yn ogystal â darparu adroddiadau o safon uchel i gefnogi gwaith y tîm. Bydd eich tîm yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau (e.e. dros y ffôn, trwy e-bost, neu wyneb yn wyneb), gan gysylltu â chyd-weithwyr eraill ym maes Gofal Sylfaenol yn ôl yr angen. 

Byddwch yn gyfrifol am sefydlu systemau ar gyfer y gwaith arferol o goladu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth, gan sicrhau bod data a gwybodaeth yn cael eu cadw'n gywir ac mewn modd cynhwysfawr, a bod prosesau a pholisi ar gael. 

Byddwch yn cefnogi'r broses o weithredu systemau adrodd effeithiol ar bob lefel, ac yn sicrhau bod yr holl adroddiadau mewnol ac allanol yn adlewyrchiad cywir o berfformiad ac yn bodloni'r amserlenni a nodir, a byddwch yn dadansoddi ac yn dehongli'r wybodaeth lle bo angen. 

Bydd disgwyl i chi weithio'n hyblyg gan ddarparu arweinyddiaeth i'ch tîm a nodi meysydd ar gyfer hyfforddiant a/neu ddatblygiad. 

Bydd gennych wybodaeth dda am gynhyrchion Microsoft Office, a byddwch yn gallu manteisio ar eu gallu i sicrhau bod eich tîm mor effeithiol â phosibl. 

Bydd angen i chi gynnal trosolwg a dealltwriaeth gynhwysfawr o weithgarwch y tîm, gan fynd ati mewn modd rhagweithiol i reoli'r cymorth gofynnol i sicrhau bod disgwyliadau'n cael eu bodloni o ran y gwasanaethau a ddarperir. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro.
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall.
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref.
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 05.05.2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi cael addysg hyd at safon Gradd neu'n meddu ar lefel gyfatebol o wybodaeth a phrofiad ym maes gweinyddu busnes

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gyda chontractwyr Gofal Sylfaenol
  • Profiad o ymdrin ag aelodau o'r cyhoedd
  • Profiad o gymryd cofnodion mewn cyfarfodydd
  • Profiad o ddadansoddi data
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gydgysylltu prosiectau
  • Profiad o lunio adroddiadau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Julia Chambers
Teitl y swydd
Business and Risk Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Os hoffech drafod y swydd hon, cysylltwch â mi trwy e-bost i drefnu trafodaeth. 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg