Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyfathrebiad
Gradd
Band 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Yn cynnwys rota 4 wythnos ar gyfer cyflenwi dros benwythnosau)
Cyfeirnod y swydd
100-AC178-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
29/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Cymorth yr Hyb Cyfathrebu

Band 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Byddem wrth ein bodd pe byddech yn ymuno â thîm ein Hyb Cyfathrebu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hwn yn wasanaeth dynamig sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chleifion a staff.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn gwasanaeth sy'n llawn cymhelliant ac yn tyfu, gan ddarparu un pwynt cyswllt ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau ledled y Bwrdd Iechyd. Rydym yn ymateb yn gyflym i anghenion y Bwrdd Iechyd a'i gleifion, ac mae hynny'n dibynnu ar ganolbwyntio ar ddatrysiadau, meddwl yn gyflym, a'r gallu i ddilyn prosesau manwl.

Bydd angen i chi allu ymateb yn gadarnhaol i newid ac amlygu sgiliau cyfathrebu rhagorol 
a sylfaen werthoedd gadarn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn gyfrifol am gefnogi timau trwy fewnbynnu ac ateb ymholiadau amrywiol, trefnu apwyntiadau, a phrosesu atgyfeiriadau  drwy e-bost, ffurflenni ffôn a Microsoft a chefnogi aelodau o'r cyhoedd a staff. Mae sgiliau rhyngbersonol a sgiliau bysellfwrdd da (gan gynnwys sylw i fanylion) yn bwysig iawn. Rhoddir hyfforddiant ar ein llwyfannau meddalwedd amrywiol.

Os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn gweithio ar rota saith niwrnod. Bydd y sifftiau rhwng yr oriau 8am-5pm. Byddwch wedi eich lleoli yn yr Hyb Cyfathrebu ar safle pencadlys y Bwrdd Iechyd ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
•    Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 29.7.25

Manyleb y person

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Safon dda o addysg (5 TGAU, graddau A-C, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg)
  • RSA III neu brofiad amlwg cyfatebol o brosesu geiriau
  • Yn hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth gynhwysfawr am becynnau Microsoft Office, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Outlook a Teams
  • Sgiliau cyfredol mewn systemau a swyddogaethau swyddfa, e.e. gliniaduron, uwchdaflunydd, llungopïwyr, lamineiddiwr
  • IQT Efydd
  • Y gallu i ymdrin â sefyllfaoedd anodd a sicrhau gwaith effeithiol trwy ddefnyddio ystod o sgiliau rhyngbersonol
  • Y gallu i lunio adroddiadau ysgrifenedig a chofnodion mewn iaith glir a chryno.
  • Tystiolaeth o ddatrys problemau
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • Wedi eich addysgu i lefel Safon Uwch neu lefel gyfatebol
  • Gwybodaeth am y GIG a'r modd y mae'n gweithio
  • Gwybodaeth am y Bwrdd Iechyd a'i ddatblygiad
  • Profiad o drosglwyddo gwybodaeth i eraill trwy gynllunio a darparu hyfforddiant.
  • IQT Arian

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn tîm
  • Profiad o sefydlu taenlenni a rheoli amryfal gronfeydd data
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur a delio ag amryfl flaenoriaethau
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd newidiol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd.
  • Profiad o ateb galwadau

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Yn meddu ar agwedd hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rosie Frewin
Teitl y swydd
Communication Hub Senior Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283210
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg