Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Offthalmoleg
- Gradd
- Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos (Rota Ar Alwad)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-GGH-449
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £64,292 - £102,689 y flwyddyn
- Yn cau
- Today at 23:59
Teitl cyflogwr
Meddyg Arbenigol mewn Offthalmoleg
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ac yntau’n uwch-aelod o’r tîm meddygol, bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda chyd-weithwyr clinigol, proffesiynol a rheolaethol i ddarparu gofal o safon, sy’n canolbwyntio ar y claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am asesu, diagnosio a rheoli cleifion yn ei faes arbenigol, gan ddarparu penderfyniadau ac arweinyddiaeth glinigol arbenigol yn rhan o’r tîm amlddisgyblaethol.
Mae’r rôl yn cynnig cyfleoedd i gyfrannu at addysgu, hyfforddi, archwilio a datblygu gwasanaethau o fewn sefydliad cefnogol sydd wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwasanaethu poblogaethau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gan gynnig y cyfle i ddatblygu eich gyrfa wrth fyw a gweithio yng Ngorllewin Cymru, ardal sy’n enwog am ei harfordir hardd, ei chefn gwlad, a chydbwysedd rhagorol rhwng bywyd a gwaith. Efallai y bydd yn ofynnol cymryd rhan mewn gwasanaethau ar alwad a’r tu allan i oriau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
• Asesu, diagnosio a rheoli cleifion, gan gynnwys y rhai ag anghenion clinigol cymhleth.
• Darparu uwch-arweinyddiaeth glinigol ac arbenigedd ym maes Offthalmoleg ac yn y tîm amlddisgyblaethol.
• Cadw cofnodion clinigol cywir, prydlon o safon.
• Cyfathrebu’n effeithiol â chleifion, perthnasau, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gefnogi gofal cleifion cydgysylltiedig.
• Hyrwyddo a darparu ymarfer clinigol seiliedig ar dystiolaeth.
• Cyfrannu at ddatblygu, moderneiddio a rheolaeth weithredol y gwasanaethau Offthalmoleg.
• Cymryd rhan mewn addysgu, hyfforddi a goruchwylio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff meddygol.
• Cefnogi ac ymgymryd â gweithgarwch archwilio, ymchwil a gwella ansawdd.
• Cymryd rhan mewn cyfarfodydd adrannol, gweithgareddau llywodraethu clinigol a rhaglenni addysg ôl-raddedig.
• Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau ac ar alwad yn ôl y gofyn.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad GMC llawn a thrwydded i ymarfer.
- Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.
- Tystiolaeth o weithio tuag at aelodaeth o'r Coleg Brenhinol.
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Cymryd rhan mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am reoli risg.
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Rhaid bod wedi cwblhau o leiaf bedair blynedd o hyfforddiant ôl-raddedig llawn-amser (neu'r hyn sy'n cyfateb i'w ennill ar sail rhan-amser neu hyblyg), a bydd o leiaf dwy ohonynt mewn rhaglen hyfforddi arbenigedd mewn arbenigedd perthnasol neu fel hyfforddai arbenigedd cyfnod penodol mewn arbenigedd perthnasol; neu brofiad a chymwyseddau cyfatebol.
- Yn gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Profiad yn y GIG.
Meini prawf dymunol
- Gallu dangos tystiolaeth o arwain tîm.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu myfyrwyr meddygol a meddygon preswyl.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amorelle Jones
- Teitl y swydd
- Service Delivery Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Louise King
Rheolwr Gwasanaeth
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





