Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP066-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Derwen, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/08/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 02/09/2026
Teitl cyflogwr
Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol – Plant a Phobl Ifanc
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol Band 7 yn darparu arweinyddiaeth glinigol, broffesiynol a gweithredol yn y Gwasanaeth Ffisiotherapi i Blant a Phobl Ifanc. Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth ffisiotherapi tra arbenigol i blant a phobl ifanc ag ystod o gyflyrau datblygiadol, niwrolegol, cyhyrysgerbydol a hirdymor, gan sicrhau bod gofal yn seiliedig ar dystiolaeth, yn ddiogel ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae’r Arweinydd Clinigol yn gyfrifol am gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion y gwasanaeth, mentrau gwella ansawdd, trefniadau llywodraethu clinigol, a safonau proffesiynol ledled y gwasanaeth. Mae’n darparu arweinyddiaeth glinigol a chyngor arbenigol i gyd-weithwyr ffisiotherapi a’r tîm amlddisgyblaethol ehangach, gan gefnogi’r broses o ddatblygu arfer gorau a darparu gwasanaeth cyson.
Mae’r rôl wedi’i lleoli yn Sir Gaerfyrddin, sef sir fwyaf Cymru, sy’n cynnig cyfuniad unigryw o drefi bywiog, cymunedau gwledig, ac arfordir prydferth. Gydag ymdeimlad cryf o gymuned a diwylliant Cymreig, mae’r sir yn darparu amgylchedd rhagorol i fyw a gweithio ynddo. Mae’r Gwasanaeth Ffisiotherapi i Blant a Phobl Ifanc yn darparu gofal ar draws ardal ddaearyddol amrywiol, gan gynnig cyfleoedd gwerth chweil i wneud
gwahaniaeth ystyrlon i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
A chithau’n arbenigwr allweddol yn y Gwasanaeth Ffisiotherapi i Blant, byddwch yn chwarae rhan arweiniol wrth ddarparu gofal ffisiotherapi o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar ddatblygiad y gwasanaeth, darparu arweinyddiaeth glinigol, a chefnogi datblygiad y
gweithlu mewn tîm amlddisgyblaethol.
Mae’r prif gyfrifoldebau’n cynnwys:
- Darparu arweinyddiaeth glinigol a phroffesiynol yn y gwasanaethau ffisiotherapi pediatrig arbenigol.
- Datblygu a chynnal safonau uchel o ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.
- Cefnogi datblygiad ffisiotherapyddion a staff cymorth trwy hyfforddiant, goruchwyliaeth a dysgu.
- Cydweithio â phlant, pobl ifanc, teuluoedd, darparwyr addysg ac asiantaethau partner i wella canlyniadau a’r gwasanaeth a ddarperir.
- Darparu cyngor a chymorth arbenigol i blant a phobl ifanc aganghenion cymhleth.
- Arwain gweithgareddau gwella ansawdd, archwilio, llywodraethu a datblygu gwasanaeth.
- Rheoli llwyth achosion clinigol cymhleth, a chynnal asesiadau, ymyriadau a gwerthusiadau arbenigol.
- Cefnogi datblygiad staff a myfyrwyr trwy oruchwyliaeth, mentora ac arfarnu.
- Cyfrannu at ddatblygiad strategol y Gwasanaethau Ffisiotherapi i Blant.
Mae’r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer ffisiotherapydd pediatrig profiadol sy’n frwd ynghylch gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc a llywio arloesedd yn y gwasanaethau ffisiotherapi cymunedol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr
gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu
cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn
croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 02/09/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad proffesiynol fel y’i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Cyrsiau ffisiotherapi arbenigol ôl-raddedig achrededig a sylweddol yn y maes clinigol perthnasol
- Hyfforddiant uwch hyd at lefel Meistr
Meini prawf dymunol
- MSc mewn arbenigedd perthnasol
- Cymhwyster ôl-raddedig hyd at lefel diploma mewn maes perthnaso
- Cymhwyster presgripsiynu anfeddygol
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Aelod o’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Tystiolaeth o gyrsiau/gymwysterau arweinyddiaeth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-raddedig sylweddol; gan gynnwys profiad perthnasol mewn maes arbenigol
- Rheoli llwyth achosion cymhleth gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol ddatblygedig
- Profiad sylweddol o weithio yn rôl ymarferydd annibynnol
- Profiad sylweddol o weithio mewn tîm amlasiantaethol mewn maes arbenigol
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Cysylltiad uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth â gofynion llywodraethu clinigol
- Arwain rhwydweithiau clinigol/grwpiau ymarfer clinigol
- Profiad o gynorthwyo i arwain datblygiadau i wasanaethau
- Profiad o ddatblygu staff
- Profiad o gyflwyno mewn maes clinigol
- Rheoli Perfformiad
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o reoli tîm
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau ar draws ffiniau proffesiyno
- Profiad o gynnal asesiadau risg
- Profiad o hybu iechyd a datblygiadau ataliol mewn gwasanaeth
- Profiad o atgyfeirio ar gyfer profion ac o ddadansoddi canlyniadau'r profion hynny
- Profiad o addysgu ac asesu addysgol
Language Skills
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Angharad Smiriglia
- Teitl y swydd
- Physiotherapy Service Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07792371920
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag [email protected] neu Nicholas Errington-Evans [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





