Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Seiciatreg
- Gradd
- NHS Medical & Dental: Meddyg Arbenigol
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol gydag opsiwn i symud ymlaen i fod yn barhaol)
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-MED-MHLD-208
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £64,292 - 102,689 y flwyddyn
- Yn cau
- 28/06/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Meddyg Arbenigol Seiciatreg (SCAMHS/CATT)
NHS Medical & Dental: Meddyg Arbenigol
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Feddyg Arbenigol ymroddedig i ymuno â’n Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (SCAMHS) a’n Tîm Asesu a Thrin Argyfyngau (CATT).
Mae’r rôl hon yn gyfle i ddarparu gofal o safon, sy’n canolbwyntio ar y claf ar draws lleoliadau ysbyty a chymunedol, gan gefnogi’r gwaith o atal, asesu, diagnosio a thrin cyflyrau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Byddwch yn gweithio’n rhan o dîm amlddisgyblaethol, gan gyfrannu at ofal argyfwng ymatebol a rheoli cleifion yn barhaus.
Mae’r swydd yn cymryd rhan yn rota ar-alwad cyntaf iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gyda chefnogaeth Meddyg Ymgynghorol ar gael bob amser (ar y safle yn ystod oriau gwaith ac oddi ar y safle y tu allan i oriau).
Mae Hywel Dda yn cynnig amgylchedd ardderchog ar gyfer byw, gweithio a datblygu eich gyrfa. A hithau’n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, mae’r ardal yn adnabyddus am ei harddwch naturiol, ei chymunedau cryf, a’i chostau byw is. Mae staff yn elwa ar ddiwylliant gwaith cefnogol, ffocws cryf ar les, a hyfforddiant, addysg a chyfleoedd datblygu, gan gynnwys rhaglenni addysgu, absenoldeb astudio, a chymryd rhan mewn ymchwil a gwella ansawdd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
• Cyfrannu at ddatblygu a darparu gwasanaeth SCAMHS cynhwysfawr ar draws y Bwrdd Iechyd yn barhaus
• Mynd ati mewn modd amserol ac effeithiol i asesu a thrin cleifion y mae arnynt angen gofal iechyd meddwl brys ac acíwt
• Arwain a chefnogi’n glinigol aelodau’r tîm amlddisgyblaethol o fewn y gwasanaeth
• Cydweithio â chyd-weithwyr clinigol, meddygol a rheolwyr i sicrhau gofal o safon i gleifion
• Cefnogi a chymryd rhan mewn gweithgareddau addysgu, hyfforddi ac ymchwil o fewn y sefydliad
• Cymryd rhan mewn mentrau archwilio clinigol a gwella ansawdd i wella’r gwasanaeth a ddarperir
• Cynnal dogfennaeth glinigol gywir, o safon a sicrhau cyfathrebu effeithiol ar draws timau
• Monitro profiad cleifion ac ymateb yn rhagweithiol i adborth i wella canlyniadau gofal
• Ymarfer yn unol â chanllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys safonau NICE a’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol
• Cynnal safonau proffesiynol yn unol â “Dyletswyddau Meddyg”
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad GMC llawn a thrwydded i ymarfer.
- Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.
- Tystiolaeth o weithio tuag at aelodaeth o'r Coleg Brenhinol
Llywodraethu Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Cymryd rhan mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am reoli risg.
- Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Rhaid bod wedi cwblhau o leiaf bedair blynedd o hyfforddiant ôl-raddedig llawn-amser (neu'r hyn sy'n cyfateb i'w ennill ar sail rhan-amser neu hyblyg), a bydd o leiaf dwy ohonynt mewn rhaglen hyfforddi arbenigedd mewn arbenigedd perthnasol neu fel hyfforddai arbenigedd cyfnod penodol mewn arbenigedd perthnasol; neu brofiad a chymwyseddau cyfatebol.
- Yn gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Profiad yn y GIG.
Meini prawf dymunol
- Gallu dangos tystiolaeth o arwain tîm.
Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu myfyrwyr meddygol a meddygon preswyl.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Warren Lloyd
- Teitl y swydd
- Associate Medical Director & Clinical Director
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 674130
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





