Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Finance
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AC054-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bronllys Community Hospital
- Tref
- Bronllys
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Primary Care Finance Analyst
Band 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Trosolwg o’r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gyfrifydd rhan-gymwysedig. Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor ariannol arbenigol, cymorth a gwybodaeth i reolwyr ar bob lefel, o fewn maes gofal sylfaenol a chyllidebau gofal eilaidd dirprwyedig.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddadansoddi, ymchwilio a darparu cyngor rheoli ariannol, nodi tueddiadau ariannol i gefnogi rhagolygon strategol a gwariant gweithredol a geir o ddadansoddi data ariannol.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau cynhyrchu gwybodaeth Cyfrifeg Rheoli integredig, effeithlon, effeithiol, cywir ac amserol ar gyfer pob Rheolwr, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol ac i wneud penderfyniadau dilys am ei gyfeiriad yn y dyfodol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r cyfrifydd rheoli ac yn darparu cymorth i'r cyfrifydd rheoli wrth reoli prosesau ariannol ar gyfer gofal sylfaenol, sy'n cynnwys Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Contract Fferylliaeth Newydd, Presgripsiynu a Dosbarthu a Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol. Byddant yn dadansoddi ac yn cynnal y cyllidebau ar gyfer gofal sylfaenol dirprwyedig a gofal eilaidd, gan ddadansoddi a monitro gwariant misol a rhagolygon gwariant.
Bydd angen iddynt ddatblygu a chynnal cysylltiadau cryf â'r practisau gofal sylfaenol a'r contractwyr o fewn bwrdd iechyd Powys gyda'r nod o wella llif gwybodaeth ariannol, a bydd rhai ohonynt o natur hynod sensitif a dadleuol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif ddyletswyddau
Fel dadansoddwr Cyllid Gofal Sylfaenol, bydd gan ddeiliad y swydd rôl allweddol o fewn y sefydliad, gan ddarparu cyngor ariannol arbenigol i'r tîm Gofal Sylfaenol.
Gan weithio'n annibynnol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod systemau ariannol ar waith i reoli, monitro a darparu cyngor ar bob agwedd ar reoli ariannol o fewn y tîm gofal sylfaenol, gan sicrhau bod prosesau deddfwriaethol a bwrdd iechyd a fframwaith atebolrwydd yn cael eu dilyn.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu dilynwch y ddolen "Gwneud cais nawr" ar Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Part Qualified (CCAB) Accountancy Qualification.
- Educated to graduate degree level or AAT qualified
Meini prawf dymunol
- Studying for a CCAB qualification
Knowledge and understanding
Meini prawf hanfodol
- Management accounting experience
- Significant experience of budgetary management
- Significant experience of Primary Care services budgetary systems and procedures Significant experience of working with primary care contractors and general practice managers
- IT skills in the use of MS office applications (Word and Excel)
Meini prawf dymunol
- Significant experience of, and exposure to NHS Financial management accounting systems
Analytical Skills
Meini prawf hanfodol
- Making decisions based on judgement and experience where there exists a wide range of options and where there is often highly complex and contradictory information to inform the situations
- Ability to work with and analyse a wide range of both financial and non financial information in order to present meaningful information with a view to influencing decision making
- Ability to analyse and interpret information, pre-empt and evaluate issues and recommend an appropriate course of action to address the issues
Meini prawf dymunol
- Strategic thinking – ability to anticipate
Communication skills
Meini prawf hanfodol
- Excellent interpersonal skills to understand, influence and persuade internal and external parties effectively
- Ability to communicate effectively at different levels of the organisation in both verbal and written form.
- Ability to analyse and interpret results and explain to non-finance staff
Freedom to act
Meini prawf hanfodol
- Ability to work independently with minimal day-to-day supervision.
- Able to work on own initiative, organise and prioritising own others workloads to changing and often tight deadlines
Personal
Meini prawf hanfodol
- Flexible approach to workload
- Ability to manage time to allow the progression and completion of multiple ongoing tasks
- Attention to detail Self motivated with ability to work on own initiative
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tim Humberstone
- Teitl y swydd
- Finance Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector