Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapiau
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (3 diwrnod yr wythnos)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-ACS040-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Llandrindod Wells
- Tref
- Llandrindod Wells
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/06/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Therapi Cynorthwyol
Gradd 4
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r gwasanaeth Asesu ac Atal Cwympiadau ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi’i hailddylunio mewn ffordd arloesol a chyffrous, ac mae cyfle wedi codi i Ymarferydd Therapi Cynorthwyol profiadol weithio yn y maes arbenigol o atal ac ymyrraeth cwympiadau.
Rydym yn chwilio am unigolion profiadol ac ymroddedig sydd â diddordeb brwd mewn atal cwympiadau ac adsefydlu ein poblogaeth hŷn fregus, gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda bregusrwydd
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar ymgysylltu â’r gymuned, darparu ymyriadau a chynnig addysg i staff a phreswylwyr cartrefi gofal, ochr yn ochr â chynnal asesiadau cwympi aml-ffactor a darparu ymyriadau.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi timau Cwympiadau a Bregusrwydd i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pobl sy’n byw gyda bregusrwydd. Mae’r prif gyfrifoldebau’n cynnwys cefnogi rheoli bregusrwydd ar draws lleoliadau cymunedol, darparu ymyriadau atal cwympiadau ac adsefydlu sy’n canolbwyntio ar fregusrwydd, a chyfrannu at gynlluniau gofal wedi’u personoli sy’n hyrwyddo cryfder, cydbwysedd, symudedd ac annibyniaeth. Rhoddir pwyslais ar ymyrraeth gynnar ac atal i leihau derbyniadau i’r ysbyty a galluogi unigolion i aros yn ddiogel yn eu hamgylchedd o ddewis.
Gan weithio’n gydweithredol gyda’r Arbenigwr Clinigol Cwympiadau, y Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) ym maes bregusrwydd, a’r tîm amlddisgyblaethol (gan gynnwys Meddygon Teulu, Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Nyrsys, Gofal Cymdeithasol a staff y trydydd sector), bydd y rôl yn cefnogi llwybr cydlynol ar gyfer rheoli cwympiadau a bregusrwydd.
Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad yn y gymuned, sgiliau cyfathrebu cryf, a’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm. Mae hyblygrwydd, sgiliau trefnu rhagorol, a’r gallu i gymryd rhan mewn rota 7 diwrnod yn hanfodol. Mae trwydded yrru ddilys a mynediad at gerbyd ar gyfer gwaith yn ofynnol
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Level 3 NVQ / A-levels / BTEC in a health care associated certificate/ Diploma in Occupational Therapy Support / Physiotherapy Rehabilitation
- Good understanding of theoretical concepts of Occupational Therapy and Physiotherapy
Meini prawf dymunol
- Evidence of continuing personal development relevant to the role in health care
- Local knowledge of statutory and voluntary services
Experience
Meini prawf hanfodol
- Significant experience and skills equivalent to level 4
- Experience in providing care and undertaking clinical observations
- Evidence of working as part of a team
Skills and Attributes
Meini prawf hanfodol
- Work independently and to seek appropriate advice
- Make decisions and to work under pressure
- Interpersonal communication skills both written and verbal
- Utilise a full range of Microsoft packages or similar e.g. Microsoft Office, Myrddin, WCCIS, ESR, Datix
- Demonstrate patient-focussed care, self motivation, pro-activity, resourcefulness, confidence and assertiveness
- Engage with members of the public
- Work in a multiagency arena
Meini prawf dymunol
- Diffuse difficult/threatening situations
- Some ability to speak, read and/or write Welsh or an eagerness to learn
Other
Meini prawf hanfodol
- Able to work flexibly both within and outside of the designated service area with ability to travel if required
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Erin Hugo
- Teitl y swydd
- Clinical Specialist physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01597 828762
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
- Mae gohebiaeth drwy e-bost yn cael ei ffafrio
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector







