Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC310-0726
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Plas Gororau
Tref
Wrecsam
Cyflog
£28,819 - £31,626 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ysgrifennydd/Arweinydd Gweinyddol Tîm - Iechyd Meddwl

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mae’r sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r model gweithredu a rhaglen newid er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau ar gyfer y dyfodol, gan greu cyfleoedd cyffrous i lunio’r ffordd rydym yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Ysgrifenyddol yn y Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl ar sail barhaol, i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i'r tîm gweinyddol o dan oruchwyliaeth y rheolwr gweinyddol.

Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol a gweinyddol meddygol cynhwysfawr o ansawdd uchel i’r ymgynghorydd eu tîm meddygol a’u timau nyrsio arbenigol, a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill .   Cynnal trefniadaeth y swyddfa a monitro'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â'r tîm gweinyddol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd yn meddu ar y cymwysterau perthnasol yn unol â manylebau'r person, byddai profiad ysgrifenyddol meddygol blaenorol yn ddymunol, lefel uchel o sgiliau clywdeipio, sgiliau cyfrifiadurol rhagorol gan gynnwys Microsoft Office a dull ffôn da. 

Bydd gan ddeiliad y swydd hefyd y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan ddefnyddio disgresiwn, barn a menter. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn hanfodol ynghyd â llygad craff am fanylion, gyda'r gallu i brosesu a chynhyrchu gohebiaeth frys ac arferol.

Rhaid i ymgeiswyr allu cynnal cyfrinachedd cleifion a sicrhau safon uchel o ofal cwsmer bob amser.

Mae'n hanfodol bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus agwedd hyblyg at waith i gwrdd â gofynion y gwasanaeth. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymhwyster / Profiad

Meini prawf hanfodol
  • NVQ lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes neu brofiad cyfwerth, Neu City & Guilds (AMSPAR) Diploma Lefel 3 mewn gweinyddiaeth feddygol neu brofiad cyfwerth fel ysgrifennydd meddygol
  • Lefel 3 RSA /OCR neu brofiad cyfwerth
  • ECDL neu brofiad cyfwerth
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster rheoli neu'n gweithio tuag ato
  • NVQ 3 Gwasanaeth Cwsmeriaid

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o gydlynu gweithgareddau gweinyddol
  • Profiad o weithio fel ysgrifennydd meddygol
  • Profiad o drefnu llwyth gwaith a phobl
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y GIG

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a'r gallu i ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am broses Cyfeirio at Driniaeth (RTT)

Gofynion Perthnasol Eraill

Meini prawf hanfodol
  • Teithio rhwng safleoedd os bydd angen ac os bydd yn berthnasol i alwadau'r swydd
Meini prawf dymunol
  • Yn siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rebecca Roberts
Teitl y swydd
Administration Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 858205
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg